26/05/2014 - 13:00
Dydd Llun, Mai 26 am 1pm
Uned Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Eisteddfod yr Urdd, Y Bala
Morgan Hopkins
Gwion Lynch
Angharad Tomos
Ers dros flwyddyn, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cysgu - does dim gweithredu wedi bod i ddiogelu'r Gymraeg er gwaethaf canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad. Yn ystod y parti byddwn yn ymweld ag Uned Llywodraeth Cymru gyda chloc larwm mawr, ag yn gweiddi “DEFFRWCH” ar Carwyn Jones a'r Llywodraeth, yn y gobaith y bydd llais plant Cymru'n deffro'r Llywodraeth o’i drwm gwsg. Mae croeso i bawb yn y brotest, ond rydym yn annog i bawb fydd am ddod i'r digwyddiad i wisgo pyjamas, os fydd hynny'n bosib.