Rali’r Cloeon: Blwyddyn ers canlyniadau’r Cyfrifiad
Rydyn ni eisiau byw yn Gymraeg – wyt ti?
11yb, Dydd Sadwrn Rhagfyr 14
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Aberystwyth
Siaradwyr: Mared Ifan, Toni Schiavone, Alun Lenny, Ieuan Wyn ac eraill
Dros flwyddyn ers cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad - canlyniadau a ddangosodd bod y Gymraeg yn wynebu argyfwng, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno tystiolaeth i Carwyn Jones a Llywodraeth Cymru o’r angen iddyn nhw weithredu dros y Gymraeg.
Mae'r cloc yn dal i dician a'r her i'r Llywodraeth yw datgan eu bwriad i sicrhau:
1. Addysg Gymraeg i Bawb
2. Tegwch Ariannol i'r Gymraeg
3. Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol i osod esiampl trwy weinyddu'n fewnol yn Gymraeg
4. Safonau Iaith i Greu Hawliau Clir
5. Trefn Cynllunio er budd ein Cymunedau
6. Y Gymraeg yn greiddiol i Ddatblygu Cynaliadwy
@cymdeithas #6pheth #argyfwng