Buddsoddi er mwyn creu miliwn o siaradwyr Cymraeg - Cyllideb Llywodraeth Cymru 2017/18

 

[Cliciwch yma i agor fel PDF]

Buddsoddi er mwyn creu miliwn o siaradwyr Cymraeg - Cyllideb Llywodraeth Cymru 2017/18

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Medi 2016

 

1.Cyflwyniad

1.1. Cefnogwyd ein gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg dan y Llywodraeth newydd gan y prif bleidiau yn y Cynulliad a dangoswyd cefnogaeth iddi hefyd gan nifer fawr o ymgeiswyr o bob plaid, gan gynnwys Gweinidog y Gymraeg a'r Prif Weinidog, ynghyd â nifer fawr o bobl ar hyd a lled y wlad. Dywed y weledigaeth:

“Dwi eisiau bod yn un mewn miliwn! Dwi eisiau:

• cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn

• atal yr allfudiad a chynnal cymunedau ynghyd â sicrhau llwybrau i ddod â Chymry Cymraeg yn ôl i’w cymunedau

• defnyddio’r Gymraeg ymhob rhan o fywyd er mwyn sicrhau mai’r Gymraeg yw’r iaith naturiol o’r crud i’r bedd”

1.2. Yn ein dogfen "Miliwn o Siaradwyr Cymraeg" a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015, fe wnaethon ni amlinellu degau o bolisïau er mwyn cyrraedd y nodau uchelgeisiol uchod. Dyma rai o'r prif gynigion yn y ddogfen:

(i) Gweithredu argymhellion allweddol adroddiad yr Athro Sioned Davies ynghylch dysgu'r Gymraeg gan sefydlu un continwwm dysgu’r Gymraeg, peth addysg cyfrwng Cymraeg i bawb, a gosod targedau statudol eraill er mwyn gwella'r ddarpariaeth.

(ii) Ymrwymo i barhad y Coleg Cymraeg yn y tymor hir ac ymestyn ei gyfrifoldebau i addysg bellach, gan gynnwys mesurau i annog myfyrwyr i barhau â'u hastudiaethau drwy'r Gymraeg, megis sefydlu amod ariannol drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i sicrhau cynnal a chynyddu nifer y neuaddau Cymraeg eu hiaith, boed hynny drwy brifysgolion neu’r Coleg Cymraeg.

(iii) Cyflwyno Bil Cynllunio’r Gweithlu a fyddai'n sefydlu targedau a chyfrifoldebau clir er mwyn sicrhau cyflenwad cynyddol o weithwyr Cymraeg, gan adeiladu ar y farchnad lafur Gymraeg a arweinir gan Fentrau Iaith Cymru

(iv) Dylai unrhyw ad-drefnu llywodraeth leol gynyddu nifer yr awdurdodau sy’n gweithio'n fewnol drwy’r Gymraeg, gan osod cymalau mewn deddfwriaeth er mwyn sicrhau hynny.

(v) Sefydlu Cronfa Ariannu Cynnal Gwasanaethau ac Adnoddau Cymunedol i ddiogelu asedau cymunedol allweddol a fyddai'n cynnig symiau cymharol fach o arian i grwpiau cymunedol er mwyn cynnal gwasanaethau a gofodau lle mae’r Gymraeg yn brif iaith y lleoliad neu'r grŵp.

(vi) Diwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 er mwyn ymestyn ei sgôp i gynnwys rhagor o'r sector breifat megis archfarchnadoedd a banciau, sefydlu hawl cyffredinol i dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg a gwella’r broses o osod Safonau ar gyrff.

(vii) Cyflwyno Bil Cartrefi Fforddiadwy i Bawb a fyddai’n cynnwys nifer o fesurau i wneud y stoc tai presennol yn fforddiadwy i bobl leol, ynghyd â gwreiddio’r gyfundrefn mewn anghenion lleol, gan gynnwys sefydlu’r hawl i rentu, rhoi’r cyfle cyntaf i bobl leol brynu tai a sefydlu'r rhagdybiaeth mai seilio datblygiadau ar anghenion lleol ddylai fod y brif egwyddor sy’n arwain ein polisïau tai ac eiddo.

(viii) Dylid sefydlu darlledwr aml-lwyfan Cymraeg newydd a fyddai’n creu cynnwys, er mwyn cynyddu defnydd o'r Gymraeg yn enwedig ymysg pobl ifanc, gan weithredu ar-lein yn bennaf, ond ar radio a theledu yn ogystal, gan gynorthwyo gwasanaethau S4C a Radio Cymru a rhyddhau’r darlledwyr presennol o’r baich o geisio gwasanaethu’r gynulleidfa gyfan.

1.3. Yn dilyn ymrwymiad ym maniffesto'r Blaid Lafur yn etholiadau'r Cynulliad, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Awst 2016 ei bod am anelu at greu miliwn o siaradwyr Cymraeg a'i bod am greu strategaeth er mwyn cyrraedd y nod dros y degawdau nesaf. Mae "Ymgynghoriad ar strategaeth ddrafft Llywodraeth Cymru: miliwn o siaradwyr Cymraeg" yn nod'r canlynol:

"Tra bo ein gweledigaeth yn un hirdymor, a bod nifer y siaradwyr yn rhywbeth y gellir ei fesur yn ystyrlon fesul cenhedlaeth, rhaid i ni weithredu a gosod y seiliau nawr. A rhaid i’r gweithredoedd hynny adlewyrchu maint ein huchelgais."

Teg dweud felly mai cynigion cyllideb y Llywodraeth ar gyfer 2017-18 fydd y cyfle cyntaf iddynt ddangos eu bod, a benthyg geiriau Gweinidog y Gymraeg, 'o ddifrif' am eu huchelgais.

2. Buddsoddi – Un o gonglfeini strategaeth i greu'r miliwn

2.1 Os yw'r Llywodraeth o ddifrif am ei huchelgais o gynyddu defnydd a nifer siaradwyr y Gymraeg yn sylweddol, mae'n rhaid iddynt ymrwymo i fuddsoddi'n sylweddol, a hynny dros y tymor hir.

2.2. Mae Cymru yn tanfuddsoddi'n ddifrifol yn y Gymraeg ar hyn o bryd ac felly nid ydym fel gwlad yn elwa'n llawn o'r manteision addysgol, diwylliannol ac economaidd a allai ddeillio o'n hiaith unigryw genedlaethol.

2.3. Yng Ngwlad y Basg, mae Llywodraeth y rhanbarth ymreolaethol yn gwario tua 1% o'i chyllideb ddatganoledig ar brosiectau i hyrwyddo'r Fasgeg; yng Nghymru mae'r ffigwr oddeutu 0.16%. Yn yr ardal honno, gwelwn fod y buddsoddiad yn dwyn ffrwyth, ac mae'n bosibl cymharu hynny gydag ardaloedd yng Ngwlad y Basg nad ydynt yn rhan o'r gymuned ymreolaethol.

2.4. Mewn adroddiad diweddar, amcangyfrifir bod y Fasgeg yn werth 4.2% o GDP economi Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg:

"6.3% of employment generated by the economy of the BAC and 4.5% of Gross Added Value are linked to Basque. As an economic sector, 4.2 % of the Gross Domestic Product of the Autonomous Community corresponds to Basque, the importance approaching that of the tourism sector in the Basque economy (5.8 % of GDP). "1

2.5. Ar bapur mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y dadleuon hyn. Daeth Cynhadledd Fawr Llywodraeth Cymru, ymgynghoriad a gynhaliwyd yn dilyn canlyniadau Cyfrifiad 2011, i gasgliad clir bod angen llawer iawn mwy o fuddsoddiad er mwyn cyrraedd y nod:

"1.12. Cyllid ac adnoddau

"Un thema gyffredinol, a chwbl allweddol, a fu’n rhedeg drwy’r holl gyfraniadau ym mhob cyfrwng oedd mater adnoddau. Nodwyd droeon, fod angen adnoddau digonol, gan gynnwys adnoddau cyllidol digonol, i weithredu’n effeithiol a dwyn y maen i’r wal.

"Cafwyd galwadau cyson gydol y broses ar i’r Llywodraeth gynyddu ei buddsoddiad ariannol yn y Gymraeg er mwyn sicrhau gweithredu effeithiol." Casgliadau'r Gynhadledd Fawr - Iaith fyw: dweud eich dweud (2013)2

2.6. Fodd bynnag, torrwyd y gwariant ar brosiectau penodol y Gymraeg yng nghyllideb 2016/17, a hynny o 5.9%. Dywedasom ar y pryd:

"Collfarnwn yn llwyr y toriad arfaethedig o 5.9% yn nhermau arian parod i'r gyllideb ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg, sy'n digwydd er gwaetha'r cynnydd o £120miliwn i refeniw Llywodraeth Cymru."

2.7. Nawr bod y Llywodraeth wedi mabwysiadu targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, sef bron i ddwbl y nifer sydd gennym ar hyn o bryd, dyma'r cyfle i fuddsoddi'n sylweddol ac yn strategol er mwyn gosod seiliau ar gyfer y twf a ddaw yn yr iaith.

2.8. Buddsoddi mewn addysg – un o'r prif ffyrdd i gyrraedd y miliwn

2.9. Mae angen pecyn o bolisï​​au i gyrraedd y tri phrif nod a amlinellir yn mharagraff 1.1 uchod, ond, heb os, un o'r meysydd allweddol yw addysg. Mae sicrhau gweithlu – o athrawon i weithwyr blynyddoedd cynnar – sy'n gallu addysgu drwy'r Gymraeg fel bod digon o bobl ifanc i greu miliwn o siaradwyr rhugl eu Cymraeg yn gwbl hanfodol. Eto, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hyn yn ei dogfen ymgynghorol:

"Rydym yn glir bod y system addysg am fod yn allweddol o ran creu siaradwyr Cymraeg y dyfodol. Mae ein system addysg, wrth reswm, yn llwyr ddibynnol ar ein hathrawon. Ein blaenoriaeth fwyaf dros y pum mlynedd nesaf felly fydd cynyddu capasiti’r system addysg i ddiwallu’r angen i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, ac i ddiwallu’r angen i wella sut caiff y Gymraeg ei haddysgu yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg. Mae hynny’n golygu hyfforddi athrawon newydd a gwella sgiliau’r athrawon presennol. "

2.10. Mae'n eglur fellybod rhaid mesur effaith y gyllideb hon yn unol â dyhead a ffon fesur glir y Llywodraeth ei hunan uchod. Os nad oes buddsoddiad sylweddol er mwyn cynyddu capasiti'r system addysg a'r gweithlu i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, bydd y Llywodraeth wedi methu ar y cyfle cyntaf.

3.Crynodeb o'n cynigion

3.1. Isod rydym yn amlinellu cynigion o ran buddsoddiadau sydd eu hangen er mwyn creu miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac sy'n cyfateb i'r blaenoriaethau yn nogfen ymgynghorol Llywodraeth Cymru ar ei strategaeth iaith. Yn gryno, ymysg y camau rydym yn galw am fuddsoddiad a thargedau ychwanegol ar eu cyfer mae'r canlynol:

(i) Gosod nod a dyddiad targed i gynyddu dros amser ganran y gyllideb ar brosiectau penodol i hyrwyddo'r Gymraeg o 0.16% o'r gyllideb i 1%

(ii) Sefydlu cynlluniau gyda chefnogaeth ariannol sylweddol er mwyn sicrhau cynnydd cyflym yn nifer yr ymarferwyr addysg sy'n gallu dysgu drwy'r Gymraeg a chapasiti'r system i ddysgu Cymraeg, megis:

  • Cynllun “Dewch 'nôl” i Gymru ar gyfer athrawon sy'n siarad Cymraeg sy’n gweithio mewn gwledydd eraill;

  • Sefydlu ac ehangu canolfannau i hwyrddyfodiad a throchi ym mhob sir;

  • Cynllun i annog siaradwyr Cymraeg i ymuno â'r gweithlu addysg; ac

  • Adnoddau ychwanegol i wella sgiliau rhai sy'n hyfforddi i ymuno â'r gweithlu addysg

(iii) Cronfa i gefnogi sefydliadau ac ymarferwyr addysg i weithredu argymhellion yr Athro Sioned Davies ynghylch dysgu'r Gymraeg fel rhan o gyflwyno'r cwricwlwm newydd

(iv) Cyfres o fesurau i gynyddu nifer y gweithleoedd Cymraeg a nifer y swyddi cyfrwng Cymraeg, megis:

  • Parciau busnes cyfrwng Cymraeg

  • Ariannu rhaglen Marchnad Lafur Gymraeg Mentrau Iaith Cymru

  • Adnoddau ychwanegol er mwyn gwella sgiliau Cymraeg gweithwyr cyrff sydd am anelu at weinyddiaeth fewnol Gymraeg megis Cyngor Sir Ynys Mô​n a Chyngor Sir Gaerfyrddin

(v) Cronfa i sefydlu, ailsefydlu ac ehangu nifer y neuaddau preswyl cyfrwng Cymraeg

(vi) Sefydlu darlledwr aml-gyfrwng Cymraeg newydd i ehangu defnydd a phresenoldeb y Gymraeg ar-lein, ar radio a theledu

(vii) Ymestyn cylch gwaith y Coleg Cymraeg i addysg ôl-16 a hyfforddiant athrawon

(viii) Sefydlu Cronfa Ariannu Cynnal Gwasanaethau ac Adnoddau Cymunedol er mwyn cynnal ac ehangu gwasanaethau a gofodau lle mai’r Gymraeg yw prif iaith y lleoliad neu grŵp

(ix) Buddsoddiad sylweddol yn y prosiect Cymraeg i Blant er mwyn gwella trosglwyddiad iaith rhwng rhieni a phlant

(x) Sefydlu Cyngor y Gymraeg fel corff hyrwyddo'r Gymraeg corfforaethol ar wahân i Gomisiynydd y Gymraeg

3.2. Galwn hefyd am nifer o newidiadau i sicrhau bod cyllidebau eraill Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at gynyddu nifer y siaradwyr ynghyd â normaleiddio ei defnydd megis:

(i) Cynyddu canran y prentisiaethau i 20% cyfrwng Cymraeg

(ii) Amod ar arian cyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif – ni ddylai’r un ysgol na sefydliad addysg newydd agor gyda chanran is o addysg cyfrwng Cymraeg na 50%, neu drothwy uwch mewn siroedd lle mae mwyafrif yr ysgolion yn rhai cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog.

(iii) Addysg i Oedolion yn y gymuned – 20% o'r cyrsiau yn rhai cyfrwng Cymraeg

(iv) Prif-ffrydio’r Gymraeg yn rhaglenni Dechrau’n Deg a Chymunedau’n Gyntaf

3.3. Fel cyfanswm, credwn fod angen dros £100 miliwn er mwyn rhoi'r cynlluniau hyn ar waith yn iawn. Hyd yn oed gyda'r buddsoddiad hwnnw, byddai'r Llywodraeth yn parhau i fuddsoddi llai na Chymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg, ond byddai'n gam mawr ymlaen. Credwn fod y cynlluniau yn gweddu gyda'r hinsawdd newydd yn dilyn yr refferendwm am ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd; mae Llywodraeth Prydain wedi datgan eu bod yn ailystyried eu polisi cyfuno cyllidol.

4.Cynigion penodol ar gyfer cynyddu buddsoddiad er mwyn cyrraedd nod y Llywodraeth

 

4.1. Mae'r Llywodraeth yn ei dogfen ymgynghorol yn pwysleisio pwysigrwydd cynllunio strategol hirdymor a gosod seilwaith cadarn ar gyfer y Gymraeg. Credwn fod angen sefydlogrwydd a sicrwydd o ran buddsoddiad ariannol hirdymor yn ogystal.



Argymhelliad

Dyfyniadau perthnasol o ddogfen ymgynghorol Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru a gwybodaeth ychwanegol

  • Llywodraeth Cymru i osod allan rhaglen i gynyddu gwariant ar y Gymraeg i 1% o'i chyllideb, gyda disgwyliad hefyd i’r cyrff mae’n eu hariannu glustnodi 1% ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg

 

"... mae edrych ar y darlun hirdymor yn golygu na all y strategaeth hon ddilyn yr un patrwm â rhai blaenorol. Mae hyn yn adlewyrchu’r awydd i osod cyfeiriad uchelgeisiol a gwirioneddol strategol ar gyfer pob maes sy’n dylanwadu ar yr iaith. Mae hefyd yn adlewyrchu’r ffaith bod angen creadigrwydd os am gyrraedd miliwn. Mae edrych ar y tymor hir yn cyd-fynd â chydnabyddiaeth y Llywodraeth bod effaith cynllunio ieithyddol yn rhywbeth y gellir ei fesur fesul cenhedlaeth."

  • Dylid comisiynu Comisiynydd y Gymraeg i wneud asesiad annibynnol o effaith iaith yr holl wariant ar draws holl adrannau’r Llywodraeth.

"Os ydym am gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ar y raddfa sydd ei hangen, mae angen dechrau gyda chynllunio. Mae hyn yn golygu prif-ffrydio’r Gymraeg fel ei bod yn rhan annatod o gynllunio strategol ar bob lefel."

 

5.Prosiectau penodol i hyrwyddo'r Gymraeg:

5.1. Cynllunio'r Gweithlu



Argymhelliad

Dyfyniadau perthnasol o ddogfen ymgynghorol Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru a gwybodaeth ychwanegol

  • Rhoi cyfrifoldeb i'r Coleg Cymraeg am hyfforddiant athrawon

 

"os am gynyddu’r niferoedd ar y raddfa sydd ei hangen, y cam cyntaf angenrheidiol mewn unrhyw strategaeth fydd creu cyflenwad digonol o athrawon i addysgu plant drwy gyfrwng y Gymraeg."

 

"Mae angen cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n cael addysg Gymraeg ac sydd â sgiliau Cymraeg, am mai ond drwy alluogi rhagor o bobl i ddysgu Cymraeg y bydd modd cyrraedd miliwn o siaradwyr."

  • Sefydlu cynllun “Dewch 'nôl” i Gymru ar gyfer athrawon sy’n gweithio mewn gwledydd eraill

" Ein blaenoriaeth fwyaf dros y pum mlynedd nesaf felly fydd cynyddu capasiti’r system addysg i ddiwallu’r angen i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, ac i ddiwallu’r angen i wella sut caiff y Gymraeg ei haddysgu yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg. Mae hynny’n golygu hyfforddi athrawon newydd a gwella sgiliau’r athrawon presennol."

 

"os am gynyddu’r niferoedd ar y raddfa sydd ei hangen, y cam cyntaf angenrheidiol mewn unrhyw strategaeth fydd creu cyflenwad digonol o athrawon i addysgu plant drwy gyfrwng y Gymraeg."

 

"Cynyddu’n sylweddol nifer yr athrawon a’r ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn ein galluogi i addysgu rhagor o blant a phobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg."

  • Sefydlu cynllun gyda manteision ariannol er mwyn annog pobl i symud o’r byd gwaith i ddysgu drwy’r Gymraeg, drwy gynllun sy’n galluogi pobl i weithio’n rhan amser neu bobl sydd wedi ymddeol i addysgu drwy’r Gymraeg

 

"Ein blaenoriaeth fwyaf dros y pum mlynedd nesaf felly fydd cynyddu capasiti’r system addysg i ddiwallu’r angen i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, ac i ddiwallu’r angen i wella sut caiff y Gymraeg ei haddysgu yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg. Mae hynny’n golygu hyfforddi athrawon newydd a gwella sgiliau’r athrawon presennol."

 

"os am gynyddu’r niferoedd ar y raddfa sydd ei hangen, y cam cyntaf angenrheidiol mewn unrhyw strategaeth fydd creu cyflenwad digonol o athrawon i addysgu plant drwy gyfrwng y Gymraeg."

 

"Mae angen cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n cael addysg Gymraeg ac sydd â sgiliau Cymraeg, am mai ond drwy alluogi rhagor o bobl i ddysgu Cymraeg y bydd modd cyrraedd miliwn o siaradwyr."

  • Ariannu'r gwaith o sefydlu marchnad lafur Gymraeg a arweinir gan Fentrau Iaith Cymru

 

"Creu gweithlu sydd â’r sgiliau addas i addysgu a darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg"

  • Adeiladu ar lwyddiant Cam wrth Gam – prosiect a gafodd ei redeg gan y Mudiad Meithrin

"Cynyddu’n sylweddol nifer yr athrawon a’r ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn ein galluogi i addysgu rhagor o blant a phobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg."

 

"Cynyddu nifer y bobl sy’n gallu gweithio drwy’r Gymraeg mewn nifer o feysydd arbenigol a gwasanaethau, fel bod gwasanaethau Cymraeg ar gael i’r bobl sy’n eu dewis."

 

5.2. Addysg



Argymhelliad

Dyfyniadau perthnasol o ddogfen ymgynghorol Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru a gwybodaeth ychwanegol

  • Ymestyn cyfrifoldeb y Coleg Cymraeg i holl faes addysg ôl-16

"Mae angen cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n cael addysg Gymraeg ac sydd â sgiliau Cymraeg, am mai ond drwy alluogi rhagor o bobl i ddysgu Cymraeg y bydd modd cyrraedd miliwn o siaradwyr."

  • Cronfa i gefnogi sefydliadau ac ymarferwyr addysg i weithredu argymhellion yr Athro Sioned Davies ynghylch dysgu'r Gymraeg fel rhan o'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm newydd

"Mae angen cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n cael addysg Gymraeg ac sydd â sgiliau Cymraeg, am mai ond drwy alluogi rhagor o bobl i ddysgu Cymraeg y bydd modd cyrraedd miliwn o siaradwyr."

 

Dywed y Llywodraeth y bydd y cwricwlwm newydd ar gael i ysgolion yn 2018 ac yn cael ei defnyddio ym hob ysgol erbyn 2021.3

 

Dywed adroddiad Yr Athro Sioned Davies - Bydd "angen cynnal hyfforddiant i baratoi athrawon a’u hysbysu o’r gofynion newydd. Byddai angen adnoddau addysgu cenedlaethol newydd hefyd i gyd-fynd â’r datblygiadau."4

  • Sefydlu rhaglen cyfnewid athrawon gyda gwledydd eraill yn enwedig rhai sydd ag ieithoedd lleiafrifol er mwyn: (i) uwchraddio sgiliau ein gweithlu; (ii) manteisio ar sgiliau gwledydd eraill; a (iii) gwneud cynnydd ar wella addysg ieithoedd tramor

 

" Ein blaenoriaeth fwyaf dros y pum mlynedd nesaf felly fydd cynyddu capasiti’r system addysg i ddiwallu’r angen i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, ac i ddiwallu’r angen i wella sut caiff y Gymraeg ei haddysgu yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg. Mae hynny’n golygu hyfforddi athrawon newydd a gwella sgiliau’r athrawon presennol."

 

"os am gynyddu’r niferoedd ar y raddfa sydd ei hangen, y cam cyntaf angenrheidiol mewn unrhyw strategaeth fydd creu cyflenwad digonol o athrawon i addysgu plant drwy gyfrwng y Gymraeg."

 

"Mae angen cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n cael addysg Gymraeg ac sydd â sgiliau Cymraeg, am mai ond drwy alluogi rhagor o bobl i ddysgu Cymraeg y bydd modd cyrraedd miliwn o siaradwyr."

 

"Cynyddu’n sylweddol nifer yr athrawon a’r ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn ein galluogi i addysgu rhagor o blant a phobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg."

  • Sefydlu ac ehangu canolfannau i hwyrddyfodiad a throchi ym mhob sir, gyda’r nod o sicrhau eu bod yn gweithredu ar yr un patrwm â’r gyfundrefn yng Ngwynedd

 

"Cysoni ac ehangu’r ddarpariaeth drochi i hwyrddyfodiaid yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf."

  • Sefydlu rhaglen i godi ymwybyddiaeth o fanteision addysg amlieithog

"Mae angen cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n cael addysg Gymraeg ac sydd â sgiliau Cymraeg, am mai ond drwy alluogi rhagor o bobl i ddysgu Cymraeg y bydd modd cyrraedd miliwn o siaradwyr."

  • Sicrhau bod trafnidiaeth yn rhad ac am ddim i ysgolion Cymraeg

"Mae angen cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n cael addysg Gymraeg ac sydd â sgiliau Cymraeg, am mai ond drwy alluogi rhagor o bobl i ddysgu Cymraeg y bydd modd cyrraedd miliwn o siaradwyr. "

  • Cynnal, sefydlu ac ailsefydlu llety penodedig Cymraeg ar gyfer myfyrwyr ym mhob prifysgol yng Nghymru wedi ei fodelu ar neuadd Pantycelyn gyda’r asedau yn nwylo’r Coleg Cymraeg neu brifysgolion

 

Gellir ystyried opsiynau ariannol yn cynnwys arian cyfalaf, cronfa benthyg ac ysgoloriaethau i fynd i lety cyfrwng Cymraeg.

 

Mae manylion am gostau ailagor Neuadd Pantycelyn ar gael5 mewn adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Brifysgol Aberystwyth.

"Sicrhau bod rhagor o leoedd yn bodoli lle mae’n hollol amlwg mai’r Gymraeg yw’r iaith naturiol, fel ei bod yn teimlo’n ddiogel defnyddio’r Gymraeg fel iaith awtomatig."

 

"Cefnogi cymunedau neu gymdogaethau lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio’n naturiol fel yr iaith gyffredin."

 

"Datblygu cyfleoedd arloesol er mwyn galluogi dysgwyr i fod yn hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, yn gymdeithasol ac o fewn y teulu."

 

"Amcan: Sicrhau bod sefydliadau addysg yn paratoi pobl ifanc i fod yn hyderus i ddefnyddio’u Cymraeg mewn sefyllfaoedd anffurfiol a chymdeithasol."

 

"Y bwriad yw sicrhau bod y Gymraeg yn rhan berthnasol, ddeniadol o fywyd o’r crud i’r bedd."

  • Cronfa Ychwanegol er mwyn targedu sectorau gwaith allweddol e.e. y gweithlu addysg, gofal a chwaraeon, Addysgu Gweithwyr Allweddol, megis athrawon a staff cynorthwyol addysg, chwaraeon, gofal ac iechyd er mwyn sicrhau twf yn nefnydd yr iaith a sicrhau gwasanaethau Cymraeg digonol

"Cynyddu nifer y bobl sy’n gallu gweithio drwy’r Gymraeg mewn nifer o feysydd arbenigol a gwasanaethau, fel bod gwasanaethau Cymraeg ar gael i’r bobl sy’n eu dewis."

  • Sefydlu rhaglen dysgu Cymraeg yn y gwaith ‘Hyfforddi’r Hyfforddwyr’ er mwyn cynyddu’n sylweddol y nifer sy’n dysgu’r iaith

 

"Cynyddu nifer y bobl sy’n gallu gweithio drwy’r Gymraeg mewn nifer o feysydd arbenigol a gwasanaethau, fel bod gwasanaethau Cymraeg ar gael i’r bobl sy’n eu dewis."

  • Darparu cyrsiau dysgu Cymraeg i oedolion am ddim

"Cynyddu nifer y bobl sy’n gallu gweithio drwy’r Gymraeg mewn nifer o feysydd arbenigol a gwasanaethau, fel bod gwasanaethau Cymraeg ar gael i’r bobl sy’n eu dewis."

 

Mae cyrsiau Saesneg ar gael am ddim i fewnfudwyr, drwy'r rhaglen ESOL (English for Speakers of Other Languages) ond mae'n rhaid talu am gyrsiau Cymraeg.

  • Adnoddau ychwanegol ar gyfer symud cyrff at weinyddiaeth fewnol Gymraeg, gan gynorthwyo gyda'r gwaith o ddynodi mwy o swyddi gyda sgiliau Cymraeg hanfodol

"Cynyddu nifer y bobl sy’n gallu gweithio drwy’r Gymraeg mewn nifer o feysydd arbenigol a gwasanaethau, fel bod gwasanaethau Cymraeg ar gael i’r bobl sy’n eu dewis."


5.3. Pobl



Argymhelliad

Dyfyniadau perthnasol o ddogfen ymgynghorol Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru a gwybodaeth ychwanegol

  • Buddsoddiad sylweddol yn y prosiect Cymraeg i Blant er mwyn gwella trosglwyddiad yr iaith rhwng rhieni a phlant

 

Credwn fod angen oddeutu £500,000 ychwanegol y flwyddyn ar gyfer Cymraeg i Blant (y gyllideb ar gyfer 2016/17 yw £500,000)

 

"Mae’r blynyddoedd cynnar hefyd yn hanfodol, oherwydd y cynharaf y mae plentyn yn cael cyffyrddiad â’r iaith, y mwyaf o gyfle sydd ganddo i ddod yn rhugl."

 

"Yn ogystal â dysgu, bydd yn hollbwysig cynyddu nifer y bobl sy’n trosglwyddo Cymraeg i’w plant."

 

"Gweithredu yn y tymor byr: y pum mlynedd cyntaf ... bydd ein rhaglen Cymraeg i Blant yn flaenoriaeth bwysig"

  • Mentrau Iaith - Prosiectau peilot mewn ardaloedd o dwf er mwyn adfer yr iaith mewn ardaloedd daearyddol

"Cefnogi cymunedau neu gymdogaethau lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio’n naturiol fel yr iaith gyffredin."

 

"Parhau i gefnogi cyrff a chanolfannau sy’n cynnig arlwy Cymraeg yn ddiamod"

  • Comisiynydd y Gymraeg – Arian ychwanegol i weithredu a chynghori am Nodyn Cyngor Technegol 20 a Deddf Cynllunio Cymru 2015

"Cefnogi cymunedau neu gymdogaethau lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio’n naturiol fel yr iaith gyffredin."

 

5.4. Normaleiddio



Argymhelliad

Dyfyniadau perthnasol o ddogfen ymgynghorol Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru a gwybodaeth ychwanegol

  • Sefydlu Corff Datblygu Economi - Antur Iaith6 gan gynnwys:

    • Pedwar parc/clwstwr busnes cyfrwng Cymraeg

    • Deorfa Wledig Gymraeg

 

Credwn y byddai cost o oddeutu £1 miliwn refeniw y flwyddyn ar gyfer y corff datblygu economi a byddai angen oddeutu £1 - £5 miliwn o arian cyfalaf ar gyfer y parciau/clystyrau busnes cyfrwng Cymraeg.

 

"Sicrhau bod rhagor o leoedd yn bodoli lle mae’n hollol amlwg mai’r Gymraeg yw’r iaith naturiol, fel ei bod yn teimlo’n ddiogel defnyddio’r Gymraeg fel iaith awtomatig. "

 

"Cefnogi cymunedau neu gymdogaethau lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio’n naturiol fel yr iaith gyffredin."

  • Sefydlu Cronfa Ariannu Cynnal Gwasanaethau ac Adnoddau Cymunedol sy’n cynnig symiau cymharol fach o arian i grwpiau cymunedol megis Merched y Wawr er mwyn cynnal ac ehangu gwasanaethau a gofodau lle mae’r Gymraeg yn brif iaith y lleoliad neu'r grŵp

"Sicrhau bod rhagor o leoedd yn bodoli lle mae’n hollol amlwg mai’r Gymraeg yw’r iaith naturiol, fel ei bod yn teimlo’n ddiogel defnyddio’r Gymraeg fel iaith awtomatig."

 

"Cefnogi cymunedau neu gymdogaethau lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio’n naturiol fel yr iaith gyffredin."

 

5.5. Cefnogi



Argymhelliad

Dyfyniadau perthnasol o ddogfen ymgynghorol Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru a gwybodaeth ychwanegol

  • Sefydlu darlledwr aml-lwyfan Cymraeg newydd

 

"Gan gymryd bod costau cynhyrchu ar y we yn rhatach na chostau cynhyrchu teledu traddodiadol, awgrymir cost gychwynnol o £10 miliwn er mwyn sefydlu’r gwasanaeth newydd yn y flwyddyn ariannol gyntaf, gyda £5 miliwn yn flynyddol ar ôl hynny."7

 

Cynnig Cymdeithas yr Iaith am ardoll / treth newydd a fyddai'n codi dros £10 miliwn y flwyddyn:

 

"Dylid cyflwyno treth ar hysbysebion ac elw cwmnïau mawrion megis Gwgl, Facebook a Sky er mwyn ariannu gwasanaeth Cymraeg newydd."8

 

"... er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn parhau’n iaith fodern a pherthnasol, a’i bod yn hollbwysig buddsoddi mewn datblygiadau technolegol – maes lle mae’r dirwedd yn newid yn gyson – er mwyn sicrhau bod modd defnyddio’r Gymraeg mewn cymaint o gyd-destunau â phosibl."

 

"Parhau i ddatblygu’r ddarpariaeth dechnolegol a digidol er mwyn galluogi pawb i fyw eu bywydau drwy’r Gymraeg."

 

"Bod cyfryngau amrywiol a pherthnasol ar gael yn Gymraeg."

 

"Sut: Er nad yw darlledu wedi ei ddatganoli, dylanwadu er mwyn sicrhau bod yr arlwy o ran teledu a radio ac ar yr holl wahanol fathau o gyfryngau yn parhau’n gyfoes ac yn berthnasol i siaradwyr Cymraeg o bob oedran."

 

Noder mai cyfraniad Llywodraeth yr Alban i MDG Alba yw £13 miliwn tra mai cyfraniad Llywodraeth Cymru i S4C yw £0 miliwn.

 

5.6. Hawliau



Argymhelliad

Dyfyniadau perthnasol o ddogfen ymgynghorol Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru a gwybodaeth ychwanegol

  • Sefydlu Cyngor y Gymraeg fel corff hyrwyddo'r Gymraeg corfforaethol ar wahân i’r Comisiynydd.

 

Credwn fod angen eglurder am gyfrifoldeb dros hyrwyddo’r Gymraeg. Mae nifer o broblemau wedi deillio o’r ffaith nad oes eglurder am bwy sy’n gyfrifol am hyrwyddo’r Gymraeg. Mae nifer o benderfyniadau wedi dangos diffyg meddwl strategol, er enghraifft y penderfyniad i dorri prosiect Twf. Hefyd nid oedd eglurder ynglŷn â phwy oedd yn gyfrifol am hyrwyddo bodolaeth y Safonau a’r newidiadau yn y gyfraith.9

"Datblygu cydbwysedd gwell rhwng hyrwyddo, deddfwriaeth a rheoleiddio."

  • Comisiynydd y Gymraeg – Dychwelyd y gyllideb i lefelau 2014/15 a rhoi sicrwydd hirdymor er mwyn i'r gyllideb gynyddu yn ôl chwyddiant

"Nod yr hawliau cyfredol yw gwella arlwy’r sefydliadau sydd yn dod o dan y safonau.

Mae angen ysgogi unigolion i fanteisio ar y cyfleoedd y mae’r hawliau hyn yn eu cynnig.

Y nod hirdymor yw symud at sefyllfa lle mae’r hawliau hyn wedi eu gwreiddio fel rhan naturiol o wasanaethau."

  • Comisiynydd y Gymraeg – Cyllideb ar gyfer rhaglen farchnata'r hawliau newydd i'r Gymraeg a ddaw yn sgil pasio Safonau'r Gymraeg

"Mae angen ysgogi unigolion i fanteisio ar y cyfleoedd y mae’r hawliau hyn yn eu cynnig."

 

6. Amodau ar gyfer cyllidebau prif-ffrwd

6.1. Wrth reswm, mae'n rhaid, wrth ystyried effaith cyllideb ar y Gymraeg, asesu effaith cyllidebau y tu hwnt i'r 0.16% o'r gyllideb a werir ar y Gymraeg ar hyn o bryd. Mae'n hollbwysig bod y cyllidebau prif-ffrwd, sef y 99.84% o'r gyllideb, yn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg.

6.2. Mae'n amlwg bod tanfuddsoddi difrifol ar weithgareddau cyfrwng Cymraeg yn nifer o gyllidebau prif ffrwd y Llywodraeth – gan gynnwys addysg ac iechyd. Mae'r Llywodraeth yn honni mai 'diffyg galw' sy'n achosi hynny – credwn fod hynny'n amlygu meddylfryd hen-ffasiwn y gwasanaeth sifil, sy'n meddwl bod gwasanaeth Saesneg yn hanfodol ac yn ddiofyn, tra bod gwasanaeth Cymraeg yn rhywbeth atodol ac yn ddewisol.

  • O gyllideb sydd bron yn £17 miliwn ar gyfer addysg i oedolion yn y gymuned, mae llai na phedair mil o bunnau wedi eu gwario ar gyrsiau cyfrwng Cymraeg, yn ôl gwybodaeth a ryddhawyd i Gymdeithas yr Iaith gan Lywodraeth Cymru o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth am wariant ym mlynyddoedd ariannol 2009/10 i 2011/12. Yn wir, mae nifer o brif gyllidebau’r Llywodraeth yn ariannu'r nesaf peth i ddim darpariaeth yn Gymraeg, gyda thros 99% o’r arian yn mynd ar ddarpariaeth Saesneg.

  • Yn ôl ein gwybodaeth, dros yr un cyfnod o dair blynedd, o blith 90,477 prentisiaeth a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, dim ond 354 oedd drwy gyfrwng y Gymraeg, sef llai na phedair prentisiaeth ym mhob mil.

  • Mae’r ffigyrau hefyd yn dangos mai 0.02% yn unig o’r un deg saith miliwn o bunnoedd a wariwyd ar ddysgu oedolion yn y gymuned dros dair blynedd, neu £2 am bob £10,000, a ddefnyddiwyd ar gyfer cyrsiau cyfrwng Cymraeg. Yn un o'r blynyddoedd, ni wariwyd yr un geiniog o'r gyllideb hon ar addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

  • Dros yr un cyfnod, 0.3% yn unig, neu £3 ymhob £1000, o wariant ar Ddysgu yn Seiliedig ar Waith a wariwyd ar hyfforddiant cyfrwng Cymraeg.

6.3. Eleni, gwnaed yr un cais rhyddid gwybodaeth gan Gymdeithas yr Iaith10 ond gwrthodwyd rhyddhau gwybodaeth ynghylch addysg i oedolion yn y gymuned a Dysgu yn Seiliedig ar Waith. Fodd bynnag, rhyddhawyd gwybodaeth am brentisiaethau11 a ddangosodd bod 179,515 allan o gyfanswm o 189,695 prentisiaeth a gynhaliwyd yng Nghymru ers 2011 wedi eu cynnal drwy gyfrwng y Saesneg, sef naw deg pump y cant. Yn ôl yr ystadegau, am gyfnod o dair blynedd rhwng 2011 a 2014, roedd 96% o'r prentisiaethau yn Saesneg. Bu cynnydd bach iawn yng nghanran y cyrsiau sy'n cynnwys elfen Gymraeg y llynedd, gyda 95% yn cael eu cynnal yn Saesneg.


Argymhellion

  • Cynyddu canran y prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg i 20%

  • Amod ar arian cyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif – ni ddylai’r un ysgol na sefydliad addysg newydd agor gyda chanran is o addysg cyfrwng Cymraeg na 50%, neu drothwy uwch mewn siroedd lle mae mwyafrif yr ysgolion yn rhai cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog.

  • Addysg i Oedolion yn y gymuned – 20% o'r cyrsiau yn rhai cyfrwng Cymraeg

  • Sicrhau bod y buddsoddiad mewn Technoleg Gwybodaeth yn sgil adroddiad Donaldson yn cyd-fynd â rhaglen o wella sgiliau iaith y gweithlu addysg er mwyn cyflwyno mwy a mwy o’r pwnc drwy’r Gymraeg

  • Sefydlu fformiwla cyllido newydd i addysg uwch, gan glustnodi arian i’r Coleg Cymraeg er mwyn sicrhau cyfran gynyddol o addysg cyfrwng Cymraeg

  • Y Llywodraeth ac asiantaethau cyhoeddus i anelu i gomisiynu cyfran gynyddol o’u prosiectau ymchwil drwy’r Coleg Cymraeg

  • Sefydlu amod ariannol drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i sicrhau cynnal a chynyddu nifer y neuaddau Cymraeg eu hiaith, boed hynny drwy brifysgolion neu’r Coleg Cymraeg

  • Gweithredu argymhelliad yr adroddiad ynghylch yr Economi ac Iaith i osod amod iaith ar bob grant a roddir gan y Llywodraeth i fusnesau: "Mae'r Grŵp yn argymell y dylai fod yn ofynnol i fusnesau sy'n cael grant gan Lywodraeth Cymru ddangos eu bod yn gallu darparu gwasanaeth yn ddwyieithog. Dylai unrhyw arwyddion neu ddeunyddiau hysbysebu sy'n gysylltiedig â phrosiect sy'n derbyn cymorth grant fod yn ddwyieithog." – y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Gymraeg a Datblygu Economaidd12

  • Sefydlu annibyniaeth ariannol i Gomisiynydd y Gymraeg drwy ei hariannu yn yr un modd â’r Archwilydd Cyffredinol gyda’r arian yn dod yn syth fel canran o’r grant bloc

  • Sicrhau, dros amser, bod grantiau’r Llywodraeth ar gyfer clybiau ieuenctid a gweithgareddau allgyrsiol i blant dim ond yn cael eu dosrannu i weithgareddau Cymraeg eu hiaith

  • Dylai fod gofyniad ar yr holl glybiau ieuenctid i gael staff cyfrwng Cymraeg – bydd hyn yn cyd-fynd â chynorthwyo awdurdodau lleol i gwrdd â’u dyletswyddau o dan y Safonau

  • Dylid symud at un darparydd ar gyfer addysg cyn-ysgol a fydd yn sefydliad Cymraeg a fydd, dros amser, yn symud holl ddarpariaeth cyn-ysgol i fod yn ddarpariaeth uniaith Gymraeg

  • Cyfuno Menter a Busnes a Mentrau Iaith er mwyn creu Mentrau Iaith a Gwaith

  • Rhoi arian ar gyfer clybiau ieuenctid i fudiadau Cymraeg yn unig

  • Prif-ffrydio’r Gymraeg yn rhaglenni Dechrau’n Deg a Chymunedau’n Gyntaf

 

7.Sefydliadau Allweddol – yr Argyfwng Ariannol Presennol

7.1. I gloi, hoffem dynnu sylw at sefyllfa fregus ac argyfyngus nifer o sefydliadau yn dilyn penderfyniadau ariannol dros y blynyddoedd diwethaf.

7.2. Comisiynydd y Gymraeg

7.2.1. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi rhybuddio bod toriadau difrifol i'w chyllideb yn peryglu ei hannibyniaeth a'i gweithgareddau. Mewn llythyr at y pwyllgor cyllid ym mis Ionawr 2016, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg:

“Rwyf wedi derbyn toriadau ariannol i’m cyllideb dros y 2 flynedd diwethaf, gyda thoriad pellach ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. I’w chymharu â chyllideb o £4,100,000 ar gyfer 2013-14, derbyniwyd toriad o £410,000 (10%) ar gyfer 2014-15 a thoriad o £300,000 (8%) ar gyfer 2015-16.

“Er nad yw cyllideb drafft Llywodraeth Cymru yn nodi’n benodol beth fydd y gyllideb ar gyfer 2016- 17, derbyniais lythyr gan y Prif Weinidog ar 23 Rhagfyr yn fy hysbysu o doriad arall o 10%. Byddai hyn yn doriad pellach o £339,000, gan adael cyllideb flynyddol o £3,051,000. Golyga hynny bydd y sefydliad wedi derbyn toriadau mewn termau ariannol o 26% mewn 3 blynedd (32% mewn termau real ar ôl ystyried effaith chwyddiant).”

7.2.2. Mewn nodyn briffio cyn etholiadau'r Cynulliad, dywedodd y Comisiynydd:

"Mae Comisiynydd y Gymraeg yn gorff annibynnol, ond Gweinidogion Cymru sydd yn ariannu a phenodi’r swydd. Bydd angen i lywodraeth nesaf Cymru sicrhau mai i’r Cynulliad Cenedlaethol fydd y Comisiynydd yn atebol yn y dyfodol ac nid i Lywodraeth Cymru. Dyma linell atebolrwydd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, a chred y Comisiynydd mai dyma’r llinell atebolrwydd mwyaf priodol ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg."

7.3. Coleg Cymraeg

7.3.1. Fe dorrwyd cyllideb y Coleg yn gwbl anghymesur gan y Cyngor Cyllido Addysg Uwch eleni ac yn groes i faniffesto'r Ysgrifennydd Addysg. Datganodd maniffesto etholiadau 2016 y Democratiaid Rhyddfrydol:

"Hyrwyddwn addysg Gymraeg drwy: ... Ehangu cylch gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnwys y sector Addysg Bellach i gefnogi cydweithredu rhwng colegau Addysg Bellach, a rhwng y sectorau Addysg Bellach ac Addysg Uwch, wrth ddatblygu a darparu deunyddiau addysgu a dysgu drwy'r Gymraeg, a diogelu'i gyllid."13

7.3.2. Buodd y Prif Weinidog yn gwbl glir mewn cyfarfod ym mis Tachwedd 2015 gyda Chymdeithas yr Iaith ei fod yn gwbl ymrwymedig i'r Coleg Cymraeg a ''moyn gweld [gwaith y Coleg] yn parhau [ac yn] tyfu".

7.3.3. Fodd bynnag, gwnaed toriad o 8.3% i'r Cyngor Cyllido gan Lywodraeth Cymru, ond gwnaed toriad o 34% i'r Coleg Cymraeg gan y Cyngor Cyllido ym mis Mai eleni14, i lawr o £8.8 miliwn yn 2015/16 i £5.8 miliwn eleni.

7.3.4. Mae'r Coleg bellach yn defnyddio oddeutu £1 miliwn o ddyraniadau o'u cronfeydd wrth gefn er mwyn cynnal eu gweithgareddau – sefyllfa hollol anghynaliadwy.

7.3.5. Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg adolygiad o waith y Coleg Cymraeg ym mis Awst eleni. Ar Awst 2il 2016, ail-ddatganodd y Democratiaid Rhyddfrydol fel plaid ei bod yn ymgyrchu dros ymestyn cylch gwaith y Coleg i gynnwys addysg ôl-1615.

7.4. Cymraeg i Oedolion

7.4.1. Gwnaed toriadau difrifol i Gymraeg i Oedolion sydd wedi cyfrannu at golli nifer o swyddi ac sydd wedi ategu at y pryderon a achosir gan ail-strwythuro'r gwasanaethau. Ym mis Ionawr 2014, gwnaed toriad o 8% i gyllidebau yn y maes ar gyfer y flwyddyn academaidd 2014/15. Ym mis Gorffennaf 2014, anfonodd Llywodraeth Cymru lythyr yn dweud y bydd toriad pellach o 7%. Rhwng y Gynhadledd Fawr a gynhaliwyd yn 2012 a 2015, cwtogwyd cyllideb darparwyr yn y maes gan £2.3 miliwn.

7.5. Twf / Cymraeg i Blant

7.5.1. Ym mis Ionawr 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai rhaglen Twf, a oedd yn cael ei rhedeg gan Gwmni Iaith, sy'n ymdrech i wella trosglwyddiad y Gymraeg yn y teulu, yn dod i ben ac y byddai rhaglen y Mudiad Meithrin 'Cymraeg i Blant' yn dechrau yn ei le o Ebrill 1af 2016 ymlaen. Roedd gan Twf gyllideb o oddeutu £750,000 ar gyfer y flwyddyn 2015/16. Cyllideb o £500,000 sydd gan y Mudiad Meithrin i gynnal prosiect 'Cymraeg i Blant' eleni.

7.5.2. Rhoddir cryn bwyslais yn nogfen ymgynghorol Llywodraeth Cymru ynghylch ei strategaeth iaith ar drosglwyddo'r iaith yn y teulu, felly disgwylir buddsoddiad ychwanegol yn y maes hwn.

8. Casgliadau

8.1. Os yw'r Llywodraeth o ddifrif am ei huchelgais i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, bydd rhaid cael buddsoddiad sylweddol ychwanegol. Fel arall, geiriau gwag yn unig yw'r uchelgais. Argymhellwn fuddsoddiad o dros £100 miliwn ychwanegol er mwyn sicrhau bod targedau'r Llywodraeth yn cael eu gwireddu. Daw manteision economaidd ac addysgol yn sgil y buddsoddiad hwn yn ogystal â buddion diwylliannol sylweddol. Heb os, ac fel mae'r Llywodraeth yn ei gydnabod, mae'n rhaid buddsoddi'n sylweddol cyn gynted â phosibl er mwyn creu gweithlu addysg sy'n gallu creu'r miliwn o siaradwyr. Mae Gweinidogion wedi dweud hynny eu hunain. Nawr yw'r amser i fuddsoddi, dyma'r cyfle.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Medi 2016

3 http://gov.wales/topics/educationandskills/schoolshome/curriculum-for-wales-curriculum-for-life/?lang=cy

 

Buddsoddi er mwyn creu miliwn o siaradwyr Cymraeg - Cyllideb Llywodraeth Cymru 2017/18