Mae gan Gymdeithas yr Iaith gyfle cyffrous i unigolyn angerddol a gweithgar ymuno â’n tîm, naill ai fel Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol neu fel Swyddog Ymgyrchoedd.
Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol
Bydd y Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol yn arwain a chydlynu ein gwaith cyfathrebu, polisi ac ymgysylltu gwleidyddol ar draws ein meysydd ymgyrchu. Bydd hefyd yn gyfrifol am gydlynu ein gwaith polisi ac ymgyrchu yn Senedd Cymru, ynghyd â chyfathrebu neges y Gymdeithas yn genedlaethol ac yn lleol i aelodau’r Gymdeithas, i'r cyhoedd, i'r wasg ac i'r awdurdodau.
Swyddog Ymgyrchoedd
Bydd y Swyddog Ymgyrchoedd yn gweithio gyda’n grwpiau ymgyrchu, rhanbarthau, celloedd ac aelodau ar draws y wlad i gefnogi ein hymgyrchoedd ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan. Bydd yn gweithio gyda’r nod o dynnu aelodau i mewn i’n hymgyrchoedd ac yn helpu swyddogion eraill i gyflawni’r nod hwn.
Mae’r ddwy swydd yn ganolog i lwyddiant y Gymdeithas fel mudiad ymgyrchu effeithiol sy'n gosod agenda flaengar ar gyfer y Gymraeg.
Cyflog: £28,000 - £32,000 y flwyddyn (cyflog cychwynnol yn ddibynnol ar brofiad)
Lleoliad: i’w drafod
Dyddiad cau: 9.00, bore Llun, 17 Chwefror 2025
Cymdeithas o bobl sy’n gweithredu’n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru fel rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid ydyn ni. Ni fyddwn yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw ymgeisydd ar sail anabledd, cenedligrwydd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, dosbarth cymdeithasol, ethnigrwydd, hil, hunaniaeth rhywedd, rhywedd, statws rhianta na chyfrifoldebau gofal.
Rydyn ni’n awyddus i gael ceisiadau gan bobl o bob rhan o’n cymunedau, yn enwedig pobl o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig, sy’n aml yn cael eu tangynrychioli mewn swyddi o’r math hwn.
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau i weithio’n rhan amser neu rannu swydd.
Am fwy o wybodaeth a manylion am sut i ymgeisio, ebostiwch post@cymdeithas.cymru.