Rydyn ni'n cefnogi pawb sydd yn gweithredu gyda ni fel rhan o ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith.
Cydsyniad gwybodus i weithredu
Mae newidiadau i Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Police, Crime, Sentencing and Courts Act) yn golygu y bydd canlyniadau newydd i droseddau.
Fydd dulliau Cymdeithas yr Iaith ddim yn newid, fyddwn ni ddim yn peidio torri’r gyfraith - ond mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gwybod canlyniadau posibl ein gweithredoedd
Fel mudiad rydyn ni’n derbyn cyfrifoldeb am a chanlyniadau ein gweithredoedd
Cymryd cyfrifoldeb am weithredoedd
Yn wahanol i rai mudiadau protestio eraill rydyn ni’n cymryd cyfrifoldeb am ein gweithredoedd.
Dydyn ni ddim yn
- talu dirwyon.
- pledio’n euog nac yn ddi-euog mewn llys - rydyn ni’n gwrthod pleidio.
- cael ein cynrychioli gan gyfreithwyr.
Troseddau Posibl a Chanlyniadau
- Os ydych chi’n gwrthod talu bil neu ddirwy barcio gan gwmi preifat byddan nhw yn aml yn trosglwyddo’r ddyled i gwmni casglu dyledion.
- Does dim grym cyfreithiol gan gwmni dyledion.
- Gall swyddog o gwmni dyledion alw yn eich cartref ond dim ond i ofyn i chi dalu rhywbeth tuag at y ddyled - does dim hawl gyda nhw i fynd â’ch eiddo a does dim rhaid i chi eu talu.
- Mae rhai cwmnïau yn cyflogi bwmbeili i adfer y ddyled
Ymwneud â bwmbeili neu Gwmni Adfer Dyledion
- Mae disgwyl i fwmbeili roi rhybudd o saith diwrnod neu fwy i chi cyn iddyn nhw alw gyda chi gyntaf.
- Does dim rhaid i chi ateb y drws na gadael bwmbeili i mewn.
- Fel dewis olaf gall bwmbeili orfodi eu ffordd i mewn i'ch cartref i adfer dirwy droseddol
-
Fe arall, all bwmbeili ddim:
- gwthio'i ffordd i mewn i'ch cartref
- fynnu mynediad rhwng 9pm a 6am - Rhaid i fwmbeili ddod i mewn trwy ddrws
- Gall bwmbeili fynd â nwyddau sy'n cael eu hystyried yn foethau, fel set deledu
-
Allan nhw ddim cymryd
- pethau hanfodol fel dillad, ffwrn/popty neu oergell
- offer a chyfarpar gwaith sydd gyda'i gilydd yn werth llai na £1,350
- eiddo rhywun arall, ond bydd yn rhaid i chi brofi nad yw nwyddau rhywun arall yn perthyn i chi
Nid oes rhaid i’r difrod fod yn barhaol – mae pobl wedi’u cyhuddo o’r drosedd hon ar ôl defnyddio sialc ar gerrig palmant.
Mae’n cynnwys ymyrryd ag eiddo mewn modd sy’n achosi colled ariannol e.e. trwy gynnau larwm tân.
- Os yw’r difrod yn llai na gwerth £5000 bydd yn mynd at lys yr ynadon
- Os yw gwerth y difrod yn uwch na £5000 gall fynd i lys ynadon neu i lys y goron
Mae gweithredwyr a stopiwyd ar eu ffordd i weithred gyda thorrwr bolltau wedi'u cyhuddo o fod ag eitemau gyda'r bwriad o achosi Difrod Troseddol.
Yr enghraifft mwyaf chwerthinllyd oedd rhywun yn cael eu harestio am fod â sharpie ganddyn nhw!
-
Mae amodau adran 12 ar gyfer gorymdeithiau ac adran 14 ar gyfer protestiadau statig Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd eisoes yn rhoi pwerau disgresiwn enfawr i uwch-swyddogion yr heddlu.
Maen nhw'n cael eu defnyddio’n fympwyol ac yn aml yn anghyfreithlon.
- Gall yr heddlu osod amodau sŵn ar brotestiadau neu orymdeithiau, os oes tebygrwydd y gallai “gael effaith ar bobl yng nghyffiniau’r orymdaith os… y gallai achosi … i bobl ddioddef anesmwythder, braw neu drallod difrifol”.
- Mae 'priffordd' yn cynnwys ffyrdd, palmentydd, ymylon glaswelltog ac eiddo preifat sy'n cael ei ddefnyddio fel llwybr cyhoeddus.
- Mae'r drosedd bellach yn berthnasol hyd yn oed os oedd y briffordd eisoes wedi'i rhwystro gan eraill neu'r heddlu.
- Mae Deddf yr Heddlu, Troseddau, Dedfrydu a Llysoedd wedi diwygio adran 137 o Ddeddf Priffyrdd 1980 er mwyn cynyddu’r gosb uchaf i hyd at chwe mis o garchar.
Tresmasu - mynd i mewn neu roi eiddo ar dir sy’n eiddo i rywun arall, heb eu caniatâd.
- Mae tresmasu yn fater i'r gyfraith sifil, sy’n golygu nad oes gan yr heddlu unrhyw bŵer i’ch arestio chi am dresmasu nes i rywun ofyn i chi adael.
- Mae hi’n drosedd i dresmaswr beidio gadael pan os yw “Protected Intending Occupiers” neu ei asiant.
- Protected Intending Occupiers yw rhywun sydd â phrydles (lease) neu rydd-ddaliad (freehold) am o leiaf y 2 flynedd nesaf
Tresmasu Difrifol - Tresmasu a rhwystro, tarfu neu ddychryn eraill yn fwriadol rhag cyflawni ‘gweithgareddau cyfreithlon’.
- Mae gan uwch swyddog heddlu'r grym i orchymyn i rywun sy’n cael ei ystyried i fod tresmasu’n ddifrifol adael y lleoliad.
-
Mae modd gosod amodau ar rywun i beidio dychwelyd i'r lleoliad dan sylw o fewn cyfnod o dri mis.
- Uchafswm y gosb yw 3 mis o garchar, neu ddirwy o £2500, neu'r ddau. Byddai troseddwyr tro cyntaf yn debygol o gael dirwy o rhwng £200 - £300.
Mathau gwahanol o gosb
Rhybudd yr heddlu
- Mae rhybudd heddlu yn gyfaddefiad o fath ac yn dod â’r broses gyfreithiol i ben.
- Does dim rhaid i chi gael eich arestio er mwyn cael rhybudd yr heddlu.
-
Ar ôl cael eich arestio, byddwch chi fel arfer yn cael rhybudd yr heddlu ar ôl cael eich cyfweld.
- Does dim rhaid derbyn rhybudd yr heddlu
- Mae rhybudd heddlu yn aros ar eich record am byth.
Hysbysiadau Cosb Benodedig (Fixed Penalty Notice)
- Does dim rhaid i chi gael eich arestio i gael eich dirwyo - gall yr heddlu roi dirwy i chi yn y fan a’r lle.
- Mae rhoi dirwy heb arestio yn creu llai o waith i’r heddlu - does dim rhaid mynd â chi i orsaf heddlu na’ch cyfweld.
-
Gallech chi dderbyn Hysbysiadau Cosb Benodedig wrth gael eich rhyddhau o’r ddalfa ar ôl cael eich arestio
- £200 yw’r ddirwy arferol, ac mae i fod i gael ei thalu o fewn 28 diwrnod ond os yw’n cael ei thalu o fewn 14 diwrnod mae’n gostwng i £100.
- Dydyn ni ddim yn tueddu i dalu dirwyon gan ei bod yn gyfaddefiad - mae rhai wedi cael sawl hysbyseb cosb, heb eu talu a does dim byd pellach wedi dod ohono.
Dirwy mewn llys
- Os byddwch yn mynd gerbron llys gall ynad neu farnwr benderfynu rhoi dirwy i chi fel cosb
- Bydd swm y ddirwy yn ddibynnol ar y drosedd, ond mae’n debygol o fod yn uwch na dirwy y byddech chi wedi ei chael yn gynharach yn y broses.
- Os nad ydych chi’n talu’r ddirwy yma mae’n fwy tebygol y bydd yn cael ei ddilyn lan ac y bydd canlyniadau pellach o beidio talu.
Carchariad
- Os byddwch yn mynd gerbron llys gall ynad neu farnwr benderfynu rhoi dedfryd o gyfnod yn y carchar.
- Bydd y cyfnod yn ddibynnol ar y drosedd, a throseddau mwy difrifol yn arwain at gyfnod hirach.
Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n cael eich arestio?
Arestio
- Bydd yr heddlu yn datgan eich bod chi’n cael eich arestio (nid yr un peth â chael rhybudd heddlu)
- Dylai’r heddlu dweud i ba orsaf heddlu y byddwch chi’n mynd - dywedwch wrth rywun
- Bydd yr heddlu yn gwneud “pat down” cyn mynd â chi i gerbyd heddlu
- Gallech chi gael eich cadw mewn cerbyd am beth amser.
- Gallai sawl un ohonoch chi gael eich rhoi mewn fan
Peidiwch dweud unrhyw beth mwy nag eich bod chi’n cymryd cyfrifoldeb
Cael eich prosesu mewn gorsaf heddlu
- Bydd swyddog yn cymryd yn cymryd eich manylion (enw, cyfeiriad, dyddiad geni, gwybodaeth meddygol - mae’n bosibl y bydd rhywun yn siarad ymhellach gyda chi am unrhyw gyflwr meddygol)
- Byddwch chi’n cael eich chwilio, fel arfer chwilio eich pocedi a mynd â’ch eiddo i’w gadw tra’ch bod chi yn y ddalfa fyddan nhw.
- Bydd swyddog yn cymryd bysedd-brint, swab ac yn tynnu llun ohonoch chi. Bydd rhain yn aros ar gyfrifiadur canolog yr heddlu (PNC)
- Byddwch chi’n cael eich rhoi mewn cell, gallech fod yno am gyfnod.
Cyfweliad
- Dywedwch eich bod chi’n cymryd cyfrifoldeb llawn am y weithred ac yn gwneud yn enw Cymdeithas yr Iaith.
- Dywedwch "DIM SYLW" i bob cwestiwn gan yr heddlu yn ystod unrhyw gyfweliad - yn y fan a’r lle, mewn cerbyd neu’r orsaf heddlu. Mae hyn ar gyfer eich diogelwch chi yn ogystal â diogelwch pobl eraill.
- Peidiwch ateb unrhyw gwestiynau wrth iddyn nhw sgwrsio yn “anffurfiol” na rhoi unrhyw wybodaeth am y weithred.
- Os ydych chi’n cael cynnig cyfreithiwr neu gynrychiolaeth gyfreithiol, dywedwch dim diolch.