Lansio 'Mwy Na Miliwn'

Gwyliwch lansiad ein gweledigaeth 'Mwy Na Miliwn - Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb' uchod. Dr Elin Royles fuodd yn cadeirio ac ar y panel oedd: Joseff Gnagbo, Talulah Thomas, Mabli Siriol a Dr Osian Elias.  

Yn y ddogfen, rydym yn galw ar lywodraeth nesaf Cymru i fynd tu hwnt i'r nod bresennol o filiwn o siaradwyr drwy sefydlu dinasyddiaeth Gymraeg i bawb a sicrhau fod cyfleoedd ar gael i bobl ddefnyddio'r iaith ymhob agwedd o fywyd. 

Er mwyn cyflawni'r nod yma, bydd angen i'r llywodraeth nesaf (ymhlith pethau eraill):

  • Greu 1,000 o ofodau uniaith Gymraeg newydd
  • Sefydlu Menter Ddigidol Gymraeg
  • Fuddsoddi 1% o wariant y Llywodraeth, neu £186 miliwn y flwyddyn, mewn prosiectau i hyrwyddo’r Gymraeg
  • Basio Deddf Addysg Gymraeg i Bawb. 

Darllenwch ein gweledigaeth yn llawn isod. 

Gallwch ddarllen ein dogfen yn llawn yma: https://cymdeithas.cymru/sites/default/files/Mwy%20na%20Miliwn%20Cymdeithas%20d2_0.pdf