Mae’r Prif Weinidog yn wynebu ei ‘brawf cyntaf’ yn sgil ei gyfrifoldeb newydd dros y Gymraeg wrth iddo benderfynu ar y safonau iaith newydd, yn ôl ymgyrchwyr a fydd yn lansio addewid dros hawliau ar faes yr Eisteddfod heddiw.
Business came to a standstill in Marks and Spencer's Carmarthen store for half an hour this afternoon (Saturday 3rd of August) as members of Cymdeithas yr Iaith refused to pay for their shopping.
Daeth busnes Marks and Spencer Caerfyrddin i stop am hanner awr prynhawn yma (dydd Sadwrn 3ydd o Awst) wedi i aelodau o Gymdeithas yr Iaith wrthod talu am eu siopa.
Mae galwadau dros hawliau i gael gofal iechyd yn Gymraeg wedi cynyddu wedi i Aelod Cynulliad, a gollodd ei allu i siarad Saesneg yn ystod salwch difrifol y llynedd, ddatgelu nad oedd staff yn gallu cyfathrebu gyda fe yn Gymraeg mewn ysbyty yng Nghaerdydd.
Mae Meri Huws wedi cytuno bod angen adolygu system gwynion Comisiynydd y Gymraeg, mewn cyfarfod gyda swyddogion Cymdeithas yr Iaith ar faes y Sioe Fawr heddiw (2pm, Dydd Mercher, Gorff. 24).
Gofynnwyd am gyfarfod gyda’r Comisiynydd yn dilyn rhwystredigaeth sawl un o aelodau’r Gymdeithas gyda’r system bresennol.
Mae ymgyrchwyr iaith wedi mynegi pryderon mawr am bolisi iaith Cyngor Torfaen wedi iddynt dorri addewid i gyhoeddi safle wê’r Cyngor yn Gymraeg erbyn dechrau’r flwyddyn hon.