Gair o'r Cadair

Helo – dwi'n falch iawn o allu dy groeso i wefan newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg! Yma byddi yn gallu gweld y newyddion diweddaraf ym mhob ymgyrch ac ym mhob ardal yn ogystal a chlywed y diweddaraf wrth wrth i ni ddathlu ein hanner canmlwyddiant. Yn fwy na hynny mae gwybodaeth am sut gelli di fod yn rhan o'n gwaith felly cer i bori'r cynnwys!

Bydd hi’n flwyddyn o ddathlu i Gymdeithas yr Iaith eleni – ac rydym am dy wahodd i fod yn rhan o’r holl dathliadau. Wedi’r cyfan, dy waith caleda dy gyfraniad di sydd wedi arwain at yr holl lwyddiannau dros y blynyddoedd. Mae mwy o fanylion am ein holl ddathliadau yny rhifyn yma o’r Tafod. Cysyllta hefyd gyda gwyn@cymdeithas.org er mwyn gwybodbeth elli di wneud.

Wrth i ni ddathlu rhaid peidio colli golwgar y gwaith sydd eto i’w wneud, ein blaenoriaeth am y cyfnod sydd i ddod yw adfer y Gymraeg fel iaith ein cymunedau. Os ydym am weld y Gymraeg yn cael ei hadfer fel iaith pob dydd yna rhaid i ni weithio ynein cymunedau i wireddu hynny.

Hynny sydd tu ôl i ddarlith Tynged yr Iaith2, darlith sydd yn datblygu ar y neges addarlledwyd gan Saunders Lewis hannercan mlynedd yn ôl. Mae Tynged yr Iaith 2yn gosod her i ni o’r newydd – ai diwylliant lleiafrif neu briod iaith ein cenedl fydd y Gymraeg? Hoffem weld y Gymraeg fel iaith gymunedol naturiol drwy Gymru wrth gwrs ond wnaiff hynny ddim digwydd ohono ei hun a gallwn ni ddim ei gyflawni heb fod ein cymunedau yn rhan ohono.

Ein man cychwyn oedd rali Nid yw Môn arWerth i Wylfa B, a drefnwyd i gefnogi teulu lleol y mae’r cwmni sydd am ddatblygu’r atomfa niwclear, Horizon, yn ceisio pryn utir oddi wrthynt. Mae eu hanes yn llawn yn y rhifyn yma o’r Tafod, ond y ffaith foe lyw y byddai datblygiad o’r fath yn golygu cynydd aruthrol o dai mewn ardal mor fach,a fyddai yn sicr o gael effaith niweidiol ar y Gymraeg.

Nid yw Môn yn unigryw yn ei brwydr.Mewn cyfnod o ansicrwydd ariannol mae’ncynghorau a’r llywodraeth yn manteisio arunrhyw ddatblygiad – o adeiladu atomfa niwclear i farina neu archfarchnad, gan ei frandio fel rhywbeth a ddaw a budd mawri’r ardal o ran swyddi ac adfywio’r ardala’r economi. Nid oes, er hynny, ystyriaetho wir gost y datblygiad a’r effaith hirdymor ar ein cymunedau. Nid ydym fel Cymdeithas am weld atal datblygiadau – i’r gwrthwyneb, rydym am weld traws-newid ein cymunedau fel nad yw pobl yn cael eu cyflyru neu eu gorfodi i’w gadael am nad oes swyddi nac adnoddau angenrheidiol,neu am nad oes gan gymunedau unrhyw beth i’w gynnig.

Mae cynaladwyedd yn un o’r ‘buzz words’ mawr ar hyn o bryd ac mae’n cael e igysylltu yn bennaf gyda’r agenda gwyrdda’r economi ond rhaid iddo gael ei ystyried hefyd yn y cyd-destun Cymreig, syddyn golygu ystyried pobl a chymunedau a’u harferion – ac felly eu hiaith. Ar hyn o bryd rhywbeth sydd yn cael ei ystyried arwahân yn hytrach na bod yn ganolog yw’rGymraeg, ac mae angen i hynny newid.

Nid cynnal yn unig sydd ei eisiau wrth gwrs - mae angen adeiladu, tyfu a datblygu,gan sicrhau fod pobl, ein cymunedau a’r Gymraeg yn ganolog ac yn rhan o’r tyfua’r datblygu hynny yn hytrach na’i fod yn ddatblygu ar draul yr iaith a’n cymunedau– dyma’r unig ffordd o sicrhau y bydd eincymunedau Cymraeg yn ffynnu.

Fel rhan o’n gweledigaeth ar gyfer adfywio cymunedau Cymraeg bydd Taith Tynged yr Iaith yn ymweld a nifer o’n cymunedau dros y flwyddyn gyda’r bwriad o ddeffro’ncymunedau i’r her a’r hyn gallwn ni wneud gyda’n gilydd er mwyn sicrhau lle i’r Gymraeg fel iaith gymunedol naturiol ym mhob rhan o Gymru. Fe wnaethon ni lansio Siarter Tynged yr Iaith: Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy felly byddwn yn myndati yn awr i weithio yn ein cymunedau i’w cynorthwyo i greu a gweithredu siarteri. Mae mwy o fanylion i’w dilyn am y daith ond os hoffet ti i’r daith ddod i dy ardal di cysyllta gyda hywel@cymdeithas.org.

Byddwn ni hefyd yn lansio sianel ar y we ar y 19eg o Chwefror – Sianel 62. Bwriady sianel yw i gynnig deunydd heriol a gwahanol ac rydym am annog cyfraniadaugan unrhyw un. Bydd yr holl offer gyda ni argael mewn gwahanol ardaloedd a byddwnyn cynnig sesiynau hyfforddi i ddysgu sut i ddefnyddio’r offer. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â greg@cymdeithas.org.