Canlyniadau allweddol ar gyfer Cymru
- Yn 2011, roedd yna lai o adrannau etholiadol gyda chyfran uwch o bobl oedd yn gallu siarad Cymraeg nag yn 2001.
- Yn 2011, roedd yna 157 o adrannau etholiadol (18 y cant) lle roedd dros hanner y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg (yn y Gogledd a’r Gorllewin). Mae hyn yn is na’r 192 o adrannau etholiadol (22 y cant) yn 2001.
- Cafwyd gostyngiad yn nifer yr adrannau etholiadol lle roedd dros 70 y cant o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg o 59 (7 y cant) yn 2001 i 49 (6 y cant) yn 2011. Erbyn 2011, roedd pob un o’r adrannau etholiadol hyn (ac eithrio un yng Nghonwy) yng Ngwynedd neu ar Ynys Môn.
- Yn 2011, nid oedd yna unrhyw adrannau etholiadol yn Sir Gaerfyrddin lle roedd dros 70 y cant o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg. Yn 2001, roedd yna 5 adran etholiadol o’r fath.
Wardiau lle mae dros 70% yn siarad Cymraeg:
Llanrug, Peblig (Caernarfon), Penygroes, Cadnant, Bethel, Seiont, Menai (Caernarfon), Bontnewydd , Llanwnda, Groeslon, Ogwen, Cyngar, Tudur, Cefni, Porthmadog East, Abererch, Diffwys and Maenofferen, Pwllheli North, Llanuwchllyn, Bala, Teigl, Pwllheli South, Bowydd and Rhiw, Llanystumdwy, Nefyn, Botwnnog, Waunfawr, Llanfihangel Ysgeifiog, Llanllyfni, Penrhyndeudraeth, Llanberis, Deiniolen, Efail-newydd/Buan, Aberdaron, Tudweiliog, Llanaelhaearn, Gerlan, Bodffordd, Clynnog, Braint, Trawsfynydd, Cwm-y-Glo, Morfa Nefyn, Bryngwran, Llandderfel, Uwchaled, Talysarn, Penisarwaun, Gwyngyll
Wardiau unigol sydd wedi gweld lleihad sylweddol:
A rhai efo cynnydd neilltuol