Cyfarfod Arbennig Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn

18/03/2016 - 09:30
Siambr Dafydd Orwig, Stryd y Jêl, Caernarfon.                                                                         O ganlyniad i gais ysgrifenedig gan ddwsin o aelodau Cyngor Gwynedd, cynhelir cyfarfod arbennig o Gyngor Gwynedd am 10 o'r gloch fore dydd Gwener. Bwriad y cyfarfod fydd trafod agwedd ar y Cynllun Datblygu Lleol  (Gwynedd a Môn), sef y dull yr aed ati i gloriannu effaith y cynllun arfaethedig hwn ar yr iaith Gymraeg. Teimlwn nad ydyw’r hyn a wnaed ynddo yn dderbyniol o ran amddiffyn y Gymraeg, a hoffem ystyried  camau  pellach i ddad-wneud y diffyg hwn. Rydym yn ymwybodol y bydd y cyfarfod yn ystod oriau gwaith ac  felly'n  anghyfleus i nifer ohonom. Byddem yn ymgynnull tu allan i adeilad Siambr Dafydd Orwig cyn mynd i'r oriel gyhoeddus i ddilyn y drafodaeth.