Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Glyndŵr

01/09/2015 - 19:00

Tafarn y Gild, Dinbych

Agenda:

1. Croeso ac ymddiheuriadau

Bydd swyddog cyflogedig newydd gogledd Cymru yn bresennol, er nid yn dechrau yn ei swydd tan ddiwedd mis Medi.

2. Penodi'r canlynol:

(a) Cadeirydd
(b) Ysgrifennydd
(c) Trysorydd

3. Adroddiadau a diweddariadau celloedd/siroedd.

Beth yw'r sefyllfa ac agweddau tua'r Gymraeg yn eich ardal chi a gan eich cyngor a sefydliadau eraill? Beth yw eich pryderon? Rydym eisiau clywed gan aelodau ym mhob sir y rhanbarth, felly beth am drafod neu gyfarfod i gasglu barnau cyn dod i'r cyfarfod?

(a) Conwy

(b) Sir Ddinbych

(c) Sir y Fflint

(d) Wrecsam

4. Eisteddfod yr Urdd, Fflint, Mai 2016

Gyda'r digwyddiad yn dod i'r rhanbarth, bydd angen aelodau'r ardal i helpu gyda threfniadau ar gyfer y stondin a digwyddiadau a helpu trwy'r wythnos.

5. Unrhyw Fater Arall