13/04/2016 - 19:30
Tafarn Y Fic Llithfaen
Yn pryderu am fygythiadau i'r Gymraeg yng nghymunedau Pen Llŷn?
Eisiau gweithredu dros y Gymraeg ym Mhen Llŷn?
Eisiau bod yn rhan o griw brwdfrydig ac efallai newid hanes Cymru?
Dewch draw i gael sgwrs anffurfiol am yr hyn hoffech fel criw ei gyflawni fel cell - boed hynny'n ymgyrchoedd a/neu trefnu digwyddiadau fel gigs ayyb.
Byddem yn trafod yn arbennig dyfodol Neuadd Dwyfor.
Bydd cyflwyniad bras yn egluro beth yw Cymdeithas yr Iaith, ynghyd â chyflwyniad bras i’r ymgyrchoedd cyfredol cenedlaethol a’r ymgyrchoedd sy’n digwydd yn rhanbarth Gwynedd a Môn.
Croeso i bawb, dewch yn llu!