Cyfarfod Deiseb "Dwi eisiau byw yn Gymreg" Ceredigion

10/04/2013 - 19:30

Cyfarfod Deiseb "Dwi eisiau byw yn Gymreg" Ceredigion

Canolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail, Aberystwyth - nos Fercher 10fed o Ebrill am 7.30

Er fod y Cyngor Sir yng Ngheredigion yn cydnabod nad yw pobl ifanc yn siarad Cymraeg tu fas i'r ysgol; bod nifer o bobl ifanc yn gadael Ceredigion ar ol gorffen eu haddysg uwchradd a nifer ddim yn dod yn ol o gwbl; er bod poblogaeth y sir yn codi a niferoedd y siaradwyr a'r cymunedau Cymraeg yn gostwng dydy'r Cyngor ddim yn cydnabod o gwbl fod argyfwng ar y Gymraeg a'n cymunedau yng Ngheredigion.
Byddwn ni'n galw felly ar Gyngor Sir Ceredigion i gydnabod fod argyfwng ar y Gymraeg ac i roi cynllun brys ar waith i fynd i'r afael â hynny.

Mae deiseb "Dwi eisiau byw yn Gymreg" Ceredigion yn pwyso ar y Cyngor Sir a byddwn yn trafod digwyddiad i gyflwyno'r ddeiseb yn ogystal a beth arall gallwn ni wneud i bwyso ar y Cyngor Sir i weithredu er mwyn sicrhau fod dyfodol i'r Gymraeg yng Ngheredigion.

Mae modd arwyddo'r ddeiseb yma