Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Morgannwg-Gwent

17/09/2014 - 19:00

Bydd cyfarfod blynyddol Rhanbarth Morgannwg Gwent yn cael ei gynnal ar nos Fercher yr 17eg o Fedi am 7yh yn nhafarn y Diwc of Clarence, Caerdydd. Dyma un o gyfarfodydd pwysicaf y rhanbarth yn y flwyddyn, lle etholir swyddogion, enwebir cynrychiolwyr i'r senedd genedlaethol a llunir cynigion i fynd ger bron Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas. Gofynwn felly i holl aelodau'r rhanbarth fynychu'r cyfarfod yma.

Diolch

 

Lleoliad: Tafarn y Diwc of Clarence,

Pryd: 17/09/2014 19.00

 

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Euros ar 02920 486469 neu ebostiwch de@cymdeithas.org