Cyfarfod 'Pam Boicot Morrisons?'

29/01/2015 - 19:00

Lan lofft y Cŵps

Mae Cymdeithas yr Iaith yn gofyn i bobl beidio siopa yn Morrisons am nad oes gwasanaeth Cymraeg llawn gyda nhw. Gyda chymaint o fusnesau yn agor ac yn adnewyddu siopau yn Aberystwyth bydd cyfle i holi 'Pam boicot Morrisons' ac yn bwysicach – beth gallwn ni wneud i ddylanwadu a newid y busnesau hyn mewn cyfarfod lan lofft y Cŵps nos Iau y 29ain o Ionawr.

Mae gwybodaeth lawn am ymgyrch Morrisons ar wefan y Gymdeithas: http://cymdeithas.org/morrisons neu cysylltwch gyda ni am ragor o wybodaeth – 01970 624501 / bethan@cymdeithas.org

Inline image