Cyfarfod Rhanbarth Ceredigion

01/05/2013 - 19:30

Bydd deiseb Dwi eisiau byw yn Gymraeg Ceredigion yn cau ar yr 20fed o Fai a byddwn yn cyflwyno'r ddeiseb mewn digwyddiad a fydd yn wledd i'r llygaid a'r meddwl.

I fod yn rhan ohono, ac ymgyrchoedd eraill y rhanbarth, dere i gyfarfod rhanbarth Ceredigion ar y 1af o Fai am 7.30pm yng Nghanolfan Merched y Wawr yn Aberystwyth.