Noson Werin - Nid yw Cymru ar Werth

12/11/2021 - 19:00

Ar y ffordd i'r Rali yng Nghaerdydd, beth am dorri'r siwrnai ym Merthyr Tydful ar gyfer Noson Werin arbennig yn Theatr Soar am 7.00pm, nos Wener, 12 Tachwedd.

Mae'r noson dan ofal Jamie Bevan a Phyl Griffiths. Dewch ag offeryn i ymuno wrth chwarae alawon gwerin cyfarwydd. Bydd taflenni cerddoriaeth a geiriau ar gael i chi ddilyn pob alaw. Mae croeso i deuluoedd, a bydd coffi, bwyd a bar ar gael.

Ni fydd tâl mynediad ond anogir cyfraniad o £3 i Gymdeithas yr Iaith. Cofiwch eich mwgwd tra dan do, a pheidiwch â mynychu os ydych yn dangos unrhyw symptomau Cofid.

Gwestai arbennig y noson fydd Osian Jones sydd yn beicio lawr o Gaernarfon i Gaerdydd fel rhan o'r ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth.

Bydd yn cyrraedd Soar tua 5pm y diwrnod hwnnw, ac yn gadael tua 9.30 y bore wedyn. Dewch draw i'w groesawu felly!