Y Gynhadledd Weithredol dros y Gymraeg - Blwyddyn ers y Gynhadledd Fawr

04/07/2014 - 10:30

Y Gynhadledd Weithredol dros y Gymraeg - Blwyddyn ers y Gynhadledd Fawr

10yb, Dydd Gwener, Gorffennaf 4ydd 2014

Y Pierhead, Bae Caerdydd

Ebostiwch colin@cymdeithas.org er mwyn cofrestru erbyn Dydd Iau Mehefin 26

Siaradwyr: Ystadegydd Hywel Jones, Toni Schiavone, Mared Ifan, Elaine Edwards, UCAC, Haf Elgar, Cyfeillion y Ddaear a Simon Thomas AC.

Cynhelir Gynhadledd Weithredol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am 10yb, Dydd Gwener, Gorffennaf 4ydd yn adeilad y Pierhead,Bae Caerdydd i nodi blwyddyn ers i Carwyn Jones gynnal ei Gynhadledd Fawr.

Noddir y digwyddiad gan yr Aelod Cynulliad Simon Thomas. Ymysg siaradwyr y gynhadledd bydd yr ystadegydd Hywel Jones, Toni Schiavone o Gymdeithas yr Iaith, Haf Elgar o Gyfeillion y Ddaear a Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC Elaine Edwards.

Bydd y gynhadledd yn holi'r cwestiwn "Be ddigwyddodd i'r Gynhadledd Fawr?", gyda’r nod o ddod at benderfyniad trawsfudiadol er mwyn pwyso ar y llywodraeth i ymateb i ganlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad. Yn ogystal, bydd y digwyddiad yn ceisio tynnu sylw at y polisïau y gallai’r Llywodraeth eu gweithredu’n syth er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn tyfu dros y blynyddoedd i ddod, gan dynnu ar brofiadau penodol ar lawr gwlad.

Fel y gwyddoch, ers cyhoeddiad y ffigyrau, mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud nad oes diben eistedd yn ôl a derbyn canlyniadau’r Cyfrifiad: gydag ymgyrchu cadarnhaol ac ewyllys gwleidyddol, gallwn ni newid ein tynged a thynged ein cymunedau Cymraeg. Rydyn ni’n pwyso ar y Llywodraeth i flaenoriaethu 6 maes polisi o’r 38 o argymhellion yn ein Maniffesto Byw, gan gynnwys: Addysg Gymraeg i Bawb; Safonau Iaith i Greu Hawliau Clir; a Threfn Cynllunio er budd ein Cymunedau. Bydd y trafodaethau yn canolbwyntio ar y meysydd hynny.

Mae’r digwyddiad yn agored i’r cyhoedd ac yn rhad ac am ddim, ond bydd rhaid i chi gofrestru er mwyn sicrhau eich lle, yn unol â rheolau’r Cynulliad, drwy ebostio colin@cymdeithas.org.

Os oes gennych gwestiynau pellach, cysylltwch â Colin Nosworthy ar colin@cymdeithas.org neu 02920 486469.

[Amserlen y Gynhadledd]