Cyd-deithiwn i Fachynlleth ar Fetro Glyndŵr

Mae pob llwybr yn arwain at Rali Glyndŵr ym Machynlleth ar ddydd Sadwrn 14 o Fedi felly cyd-deithiwn i fynnu’r hawl i gartre a dyfodol i’n Cymunedau Cymraeg.

Mae pobman yng Nghymru o fewn taith bore i Fachynlleth. Bydd tri llwybr i gyrraedd o ardaloedd fel Bangor, Porthmadog, Wrecsam a Chaerdydd ac o leiaf dau lwybr i bawb arall.
Sut fyddwch chi’n cyd-deithio draw?