Wrth ymateb i gyhoeddi Bil y Gymraeg ac Addysg heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod y Llywodraeth yn “colli cyfle mewn cenhedlaeth” i osod nod hirdymor bod pob plentyn yn cael addysg Gymraeg, gan bwysleisio mai blaenoriaeth y mudiad yn ystod y misoedd nesaf fydd cryfhau’r ddeddfwriaeth yn ystod ei thaith trwy’r Senedd.
Yn ôl Osian Rhys o grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith:
“I ni, mae’r nod yn glir: addysg Gymraeg i bawb, fel bod pob un plentyn yn gadael yr ysgol yn hyderus yn yr iaith. Mae’r Bil yn ei ffurf bresennol yn colli cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i osod addysg Gymraeg i bawb fel nod hirdymor, ac i osod targedau statudol fydd yn sicrhau bod rheidrwydd ar gynghorau lleol i weithio tuag at hynny ar unwaith.
Ychwanegodd Toni Schiavone o grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith:
“Mae’r Gymdeithas wedi ymgyrchu’n hir am ddeddf addysg Gymraeg, felly rydyn ni’n croesawu cyhoeddi’r Bil, ac yn croesawu hefyd y nod bod pob disgybl yn gadael yr ysgol yn hyderus yn y Gymraeg. Ond os mai dyna yw nod y Llywodraeth, rhaid i’r Bil sicrhau bod cant y cant o’n plant yn cael addysg Gymraeg erbyn 2050, gyda thargedau cadarn ac ymrwymiadau cyllidol cryf ar gyfer hynny wedi’u gosod mewn statud. Nawr yw’r cyfle i fuddsoddi yn ein system addysg a’n plant a’n pobl ifanc.
“Ein blaenoriaeth yn ystod y misoedd nesaf felly fydd cryfhau’r Bil drwy annog gwelliannau iddo yn ystod ei daith drwy’r Senedd er mwyn sicrhau yn y dyfodol na fydd yr un plentyn yn cael ei adael ar ôl.”