Mae Osian Rhys o Bentre’r Eglwys wedi’i ethol fel Cadeirydd Cenedlaethol newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Cafodd Osian ei fagu ym Mhentre’r Eglwys ger Pontypridd. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Garth Olwg ac Ysgol Gyfun Llanhari, cyn mynd ymlaen i Brifysgol Aberystwyth i wneud gradd yn y Gymraeg.
Mae'r Gymdeithas wedi bod yn ymgyrchu dros y Gymraeg ers dros hanner can mlynedd bellach – mewn meysydd fel darlledu, hawliau, cynllunio ac addysg.
Wrth siarad am gael ei ethol fel Cadeirydd y mudiad ymgyrchu, meddai Osian Rhys:
“Mae’n fraint cael bod yn rhan o dîm arbennig o wirfoddolwyr a staff sy’n gweithio dros ddyfodol gwell i'r Gymraeg. Un peth rydw i am ei bwysleisio ydy bod lle i bawb sy’n cefnogi’r Gymraeg i chwarae rhan yn y Gymdeithas. Mae rhai o’n cefnogwyr yn barod i godi llais mewn protest neu hyd yn oed i dorri’r gyfraith dros eu daliadau. Ond mae’r rhan fwyaf o waith y Gymdeithas yn digwydd yn dawel bach – ysgrifennu llythyrau, mynd i gyfarfodydd, pwyso am newid lle bynnag gallwn ni.“
“Gwirfoddolwyr sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith yma, felly os gallwch chi gyfrannu mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni. Mae yna groeso i bawb – yn wir, fe fydden ni’n ddiolchgar am bob cefnogaeth. A dyma rywbeth y gall pawb ei wneud: ymaelodi drwy ein gwefan er mwyn helpu i ariannu ymgyrchoedd y Gymdeithas. Mae pob cyfraniad yn help.”
Wrth sôn am ymgyrchoedd y mudiad, meddai Osian Rhys:
“Dw i'n credu bod pawb yn cydnabod y cyfraniad mae’r Gymdeithas wedi’i wneud yn y gorffennol pell, o ymgyrch yr arwyddion ffyrdd i'r ymgyrch dros sianel deledu Gymraeg, drwy aberth ac ymdrech miloedd o bobl. Mae pethau wedi newid ers hynny, a falle bod y gwaith yn llai amlwg heddiw, ond mae yna enillion hollbwysig wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf hefyd, o sicrhau Coleg Cymraeg i gynnig addysg prifysgol drwy’r Gymraeg, i gael Comisiynydd a statws swyddogol i'r iaith.
“Erbyn hyn, mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dyma gam mawr ymlaen, ond er mwyn cyrraedd y targed, mae’n rhaid i bopeth newid eto. Er mwyn sicrhau bod y targed yn cael ei gyrraedd, mae angen sicrhau dros amser bod pob plentyn yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyna pam rydyn ni’n galw am Ddeddf Addysg Gymraeg newydd. Mae’n hollol annerbyniol ac annheg bod bron i 80% o’n pobl ifanc yn gadael yr ysgol heb allu siarad Cymraeg yn rhugl.
“Un arall o brif ymgyrchoedd y Gymdeithas ydy datganoli pwerau darlledu i Gymru fel bod ganddon ni gyfryngau sy’n addas i Gymru lle mae’r Gymraeg yn llawer mwy amlwg, o’r teledu i YouTube i radio lleol. Ac fe fyddwn ni’n dal i alw am amddiffyn a chryfhau hawliau iaith, yn enwedig tra bod bygythiad i hynny wrth i'r Llywodraeth sôn am basio Deddf Iaith newydd fyddai’n troi’r cloc yn ôl ac yn gwanhau ein hawliau iaith.”