Galw am £10 miliwn i'r Coleg Cymraeg greu prentisiaethau Cymraeg

Dim ond 0.3% sy'n gyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd 

Dylai Llywodraeth Cymru glustnodi deg miliwn o bunnau o'i chyllideb prentisiaethau i'r Coleg Cymraeg er mwyn sicrhau bod llawer mwy ar gael yn Gymraeg, yn ôl ymgyrchwyr iaith.   

Yn ôl y ffigurau diweddaraf sydd ar gael, o 2014/15, dim ond 0.3%, neu 140 prentisiaeth, a gwblhawyd yn y Gymraeg yn unig, allan o gyfanswm o 48,345. Y llynedd, cynyddodd Llywodraeth Cymru ei buddsoddiad mewn prentisiaethau o £96m i £111m fel rhan o addewid i ddarparu dros gan mil o brentisiaethau dros gyfnod o bum mlynedd.  

Ddiwedd y llynedd, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams y byddai cyfrifoldebau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cael eu hymestyn i gynnwys addysg bellach a phrentisiaethau. Fodd bynnag, nid oes cyhoeddiad wedi bod am arian ychwanegol i'r Coleg er mwyn iddo allu cynyddu darpariaeth Gymraeg yn y sector.   

Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams, meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:  

"Mae'r diffyg darpariaeth prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn destun pryder mawr iawn i ni – mae 0.3% yn chwerthinllyd o isel. Mae'r Llywodraeth yn buddsoddi llawer o arian yn yr hyfforddiant, ac mae hynny'n gwbl gywir, ond mae'n rhaid hyfforddi ein pobl ifanc i allu weithio yn Gymraeg. Wedi'r cwbl, mae cynyddu defnydd y Gymraeg yn y gweithle yn allweddol i bolisi iaith y Llywodraeth. Yn y byd sydd ohoni, mae gormod o bobl, gan gynnwys gweision sifil, yn derbyn yn ddi-gwestiwn bod y byd gwaith bron â bod yn gyfan gwbl Saesneg. 

"Ers nifer o flynyddoedd, cynhelir cyfran eithriadol o fach o brentisiaethau drwy'r Gymraeg ... Gwyddom eich bod yn sylweddoli bod eich penderfyniad clodwiw i ymestyn cyfrifoldebau'r Coleg Cymraeg i'r maes hwn yn cynnig cyfle pwysig i wneud gwir wahaniaeth yn hyn o beth ... er mwyn taclo'r perfformiad cwbl annerbyniol presennol, galwn arnoch i glustnodi £10 miliwn o bunnau allan o'r gyllideb prentisiaethau o dros £111.51 miliwn i fod dan reolaeth y Coleg Cymraeg yn 2019/20 (oddeutu 9%) er mwyn dechrau gweddnewid y sefyllfa. Gofynnwn i'r arian a glustnodir i'r Coleg Cymraeg ar gyfer prentisiaethau gynyddu i ganran sy'n cyfateb i ganran siaradwyr Cymraeg y boblogaeth bresennol oddeutu 20%, neu £22 miliwn y flwyddyn ar sail y gyllideb bresennol, o fewn tair blynedd, hynny ydy erbyn 2021/22. 

"Ni fyddai'r polisi hwn yn costio'r Llywodraeth yr un ceiniog ychwanegol - mater o drosglwyddo arian o'r gyllideb bresennol i'r Coleg Cymraeg fyddai fe. Fodd bynnag, byddai'r penderfyniad yn galluogi gweddnewid y sefyllfa er lles y Gymraeg a'i lle yn y gweithle. Credwn y byddai nifer o fuddion yn deillio o fabwysiadu'r polisi hwn - byddai o fudd i sefydliadau a chwmnïau sydd am wella ar eu darpariaeth Gymraeg, o fudd ieithyddol, addysgol a diwylliannol I'r myfyrwyr, a chyfrannu at leihau allfudiad siaradwyr Cymraeg ifanc o Gymru a'u cymunedau."  

Parha'r llythyr: 

"Mewn ymateb i feirniadaeth am y sefyllfa [gyda phrentisiaethau Cymraeg], mae'ch swyddogion wedi newid y ffordd mae'r ystadegau yn cael eu cyflwyno. Bellach maen nhw'n cyhoeddi ffigwr arall, sef nifer y prentisiaethau gyda "rhywfaint o ddysgu dwyieithog". Gallai hynny golygu cyn lleied â chyflwyno un adnodd dysgu dwyieithog i'r myfyrwyr, ac felly nid ydym yn credu ei fod yn ystadegyn o werth. Ymhellach, pryderwn fod awydd swyddogion i ganolbwyntio ar yr ystadegyn hwnnw, yn ffordd o osgoi newid polisi a thaclo hunan-fuddiannau'r darparwyr presennol."