Protestwyr gwreiddiol yn dathlu chwedeg mlwyddiant protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith

Daeth nifer o'r protestwyr gwreiddiol i daith gerdded i nodi chwedeg mlwyddiant protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith.
Dechreuodd y daith ar Bont Trefechan cyn ymweld â nifer o leoliadau eiconig yn hanes y mudiad yn Aberystwyth.

Wrth siarad yn ystod y daith gerdded dywedodd Aled Gwyn:
Roedd y brotest a'r cyfnod yn gyffrous, ac fe wnaeth y cyhoeddusrwydd sylw a'r sylw arwain at ddegawdau o ymgyrchu sy'n dal i fynd ymlaen.
"Mae gwaith i'w wneud o hyd ond rwy'n obeithiol - mae arwyddion calonogol ar hyn o bryd bod gennym nifer o arweinwyr glew a mudiadau goleuedig mewn nifer o feysydd allweddol a all wneud gwahaniaeth a rhoi hwb i’n hyder."

Un o’r cyfranwyr ddydd Sadwrn sydd wedi bod yn weithredol yn y cyfnod diweddar yw cyn-gadeirydd y mudiad, Bethan Ruth. Meddai:
"Rwy'n perthyn i gyfnod sydd wedi elwa o ymgyrchu'r degawdau cyntaf, ond dydy pawb ddim yn y sefyllfa freintiedig honno o allu cael addysg Gymraeg, swydd Gymraeg a byw yn Gymraeg. Felly mae angen dal i frwydro."

Mae rhagor o luniau'r digwyddiad i'w gweld yma.