Mae ymgyrchwyr iaith wedi meddiannu swyddfeydd y BBC yng Nghaerdydd y bore yma.
Aeth yr ymgyrchwyr, gan gynnwys y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, mab Gwynfor Evans, i mewn i adeilad y BBC gan gyhuddo'r darlledwr o weithredu mewn modd 'annemocrataidd' wrth gymryd S4C (Sianel Pedwar Cymru) drosodd.
Y llynedd, fe gytunodd penaethiaid y BBC a Llywodraeth San Steffan y byddai S4C yn dod yn atebol i Ymddiriedolwyr y BBC, gyda'r Gorfforaeth yn gyfrifol am ddarparu'r rhan fwyaf o'i chyllid, a'r Llywodraeth yn torri ei chymhorthdal iddi o 94%.
Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae S4C, sef unig sianel deledu Gymraeg y byd, mewn sefyllfa argyfyngus. Mae ei dyfodol yn y fantol, sydd yn fygythiad uniongyrchol i'r iaith Gymraeg. Mae'n wynebu toriadau o dros 40% i'w chyllid mewn termau real; cael ei thraflyncu gan y BBC; a bod grymoedd yn nwylo Gweinidogion San Steffan i gael gwared a hi yn llwyr. Ar ben hynny, mae'r BBC yn ceisio gwthio cytundeb ar S4C cyn i ASau bleidleisio ar y mater - mae'n hollol annemocrataidd. Mae'n amser i'r BBC newid ei meddwl."Mae rhaid cofio bod y llywodraeth yn Llundain yn arbed 94% o'r arian roedden nhw'n arfer ei dalu i'r sianel, toriad sydd yn gwbl annheg. Ar ôl 2015, does dim sicrwydd hyd yn oed y bydd unrhyw arian yn mynd i'r sianel o gwbl. Does dim angen edrych yn bellach na Gwasanaeth y Byd i weld beth gall ddigwydd i sianeli sydd ddim yn bwysig i'r BBC.
"Fe gytunodd Llywodraeth San Steffan a'r BBC yn Llundain ar gynllun munud-olaf heb ymgynghori a neb o Gymru. Gallai eu cyd-gynllwyn ladd y sianel os nad oes ganddon ni'r adnoddau i weld cynnwys Cymraeg ar y teledu ac ar y we. Rydym ni'n mynnu bod rhaid cael S4C sy'n cael ei rheoli a'i golygu yn annibynnol gyda fformiwla ariannu mewn statud er mwyn diogelu dyfodol y gwasanaeth Cymraeg pwysig hwn."Mae'n amser i'r BBC wneud dewis - ydyn nhw am barhau i weithredu fel ci bach y Llywodraeth yn Llundain neu wneud y peth iawn dros y Gymraeg? Yn unol â dymuniad y Torïaid, maen nhw'n ceisio cymryd y sianel drosodd a'i rheoli fel adran o'r BBC. Bydd hyn yn golygu bod rhaglenni Cymraeg yn gorfod cystadlu am arian yn erbyn rhaglenni Saesneg am y tro cyntaf ers 30 mlynedd. Pam mae'r BBC am wneud hyn? Ond ydy hi'n amser i'r BBC drafod y peth yn agored gyda'r cyhoedd?"
Pwysa yma i ddarllen mwy am yr ymgyrch...
S4C: Cymdeithas yn meddiannu swyddfeydd y BBC - Golwg360 - 31/01/2011
Ymgyrchwyr iaith yn protestio am S4C - BBC Cymru - 31/01/2011
Welsh language protesters' sit-in at BBC Wales over S4C - BBC Wales - 31/01/2011
S4C activists block entrance to BBC - Western Mail - 31/01/2011