Darlledu

Jill Evans yn y llys dros S4C

'Cyfle i ddweud diolch', dyna sut mae ymgyrchwyr S4C wedi disgrifio achos llys yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Jill Evans o flaen Ynadon ym Mhontypridd heddiw (Dydd Gwener, Tachwedd 4ydd).

Ers Hydref llynedd, mae dros gant a hanner o ymgyrchwyr, megis y canwr Bryn Fôn a'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, wedi datgan eu bwriad i wrthod talu'r drwydded deledu.

S4C - ymgyrch trwydded deledu

tvlicense.jpgYn dilyn trafodaeth yng nghyfarfod Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros y Sul, mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan y bydd yn cynghori aelodau i ddechrau talu eu trwydded deledu eto.

Aelodau yn torri ar draws dadl yn San Steffan

Mae tri aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg - Jamie Bevan, Colin Nosworthy a Bethan Williams - wedi torri ar draws trafodaeth yn Nhy'r Cyffredin ar y Mesur Cyrff Cyhoeddus fydd yn effeithio yn uniongyrchol ar ddyfodol S4C.

Wrth iddynt gael eu hebrwng allan o'r siambr dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'r holl drafod sydd wedi bod ar ddyfodol S4C wedi bod yn broses annemocrataidd sydd wedi digwydd tu ôl i ddrysau caeëdig ac fe gafodd pobl Cymru eu heithrio yn gyfan gwbl o'r drafodaeth.

Pam penderfynu ar ddyfodol S4C tu ol i ddrysau caeedig?

bethan-s4c.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r cytundeb rhwng BBC, S4C a DCMS.

Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

Cymdeithas yn ymateb i gynnig y BBC dros S4C

bbc-s4c.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i gyhoeddiad y BBC am gyllideb a threfniant llywodraethol S4C heddiw.Meddai Adam Jones, llefarydd darlledu'r mudiad iaith:"Trwy gydol y broses hon, rydyn ni wedi galw ar i'r gwleidyddion a'r darlledwyr i wrando ar lais bobl Cymru, ond dyw hynny heb ddigwydd.

S4C v BBC: Rhybudd am gytundeb 'annemocrataidd'

bbc-s4c.jpgMae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo'r BBC o weithredu yn 'annemocrataidd' trwy baratoi i gyhoeddi manylion am ddyfodol S4C tra bod trafodaethau San Steffan yn parhau.Disgwylir i'r BBC gyhoeddi cynnig am gyllido S4C rhwng 2015 a 2017, er nad oes grym statudol iddynt wneud hynny gan fod unrhyw gytundeb yn dibynnu ar ganiatâd Seneddol.

Datganolwch Ddarlledu i Gymru, neges rali Wrecsam

rali-wrecsam-glyndwr.jpgBu Aelod Cynulliad Rhyddfrydol yn cefnogi galwadau ymgyrchwyr iaith i ddatganoli cyfrifoldeb dros S4C i Gymru mewn rali dros ddyfodol darlledu yn Wrecsam Dydd Sadwrn, Medi 8fed.Pwyswch yma i lawrlwytho copi o'r daflen a ddosbarthwyd yn ystod y rali (

Gwylnos S4C: ymgyrchwyr yn ceisio deffro'r rheolwyr

Mae grwp o ymgyrchwyr iaith wedi dechrau gwylnos o flaen pencadlys S4C heno i dynnu sylw at y bygythiadau i'r sianel.Fe fydd yr ymgyrchwyr hefyd yn galw ar i reolwyr y sianel sefyll lan yn erbyn cynlluniau'r BBC a'r Llywodraeth a ddaw â'r sianel fel darlledwr annibynnol i ben.

S4C: Galw ar i ymddiriedolwr BBC ymddiswyddo dros ddêl 'twyllodrus'

elan_closs_stephens.jpgMae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar i ymddiriedolwr y BBC ymddiswyddo ar ôl i'r darlledwr llofnodi cytundeb a fydd yn golygu y bydd ganddyn nhw reolaeth lwyr dros gyllideb S4C.Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cwestiynu pwrpas swydd Elan Closs Stephens, y cynrychiolydd o Gymru ar Ymddiriedolaeth y BBC, gan fod y corff wedi gwthio penderfyniad a fydd yn rhoi dy

Y frwydr dros S4C i barhau ar ôl colli pleidlais agos

s4c-toriadau.jpgMae ymgyrchwyr iaith wedi addo brwydro ymlaen dros ddarlledu Cymraeg ar ôl colli cais i achub S4C o 1 bleidlais yn Nhy'r Cyffredin heddiw.Mynegwyd siom am benderfyniad Glyn Davies AS (Ceidwadwr, Sir Drefaldwyn) a Stephen Crabb AS (Ceidwadwr, Preseli Penfro) oherwydd iddynt anwybyddu barn eu cyd-Aelodau Seneddol Ceidwadol a feirniadodd y cwtogi a'r newidiadau i'r sianel mewn adroddiad trawsbleidiol yn gynharac