Darlledu

Rali S4C: Achub unig sianel Gymraeg y byd

Daeth dros 2,000 i bobl i Rali gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd heddiw, yn erbyn y toriadau arfaethedig i S4C a'r cynlluniau i'r BBC cymryd y sianel drosodd.ralis4c_panorama-bch.jpgYmysg y siaradwyr yr oedd Arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones a'r Aelod Seneddol

Trafodaeth dyngedfennol am S4C - Cyfarfod Cyffredinol

cyfcyff2010-1.jpgBydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn trafod dyfodol S4C mewn cyfarfod cyhoeddus yn Aberystwyth heddiw (2pm, Dydd Sadwrn, 30ain Hydref).Mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwneud toriad o 94% i grant y sianel, a throsglwyddo'r cyfrifoldeb ariannu'r darlledwr i'r BBC. Bydd Alun Davies AC Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn ymuno i gyfrannu at y drafodaeth.

Gwrthod talu trwydded teledu dros S4C

tvlicense.jpgBydd Cymdeithas yr Iaith yn trafod cynnig brys yn galw ar bobl i wrthod talu eu trwydded teledu o fis Rhagfyr dros gynlluniau'r llywodraeth am S4C a fydd, yn ôl ymgyrchwyr, yn 'ddechrau'r diwedd i ddarlledu Cymraeg'.Mae'r cynnig, a drafodir yng Nghyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Aberystwyth ddydd Sadwrn nesaf (30ain Hydref), yn galw ar bobl i wrthod talu eu trwyddedi teledu o'r

Croesawu ymateb Gweinidog Cymru ar S4C

alunffjones.jpgMae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu gweithredoedd y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones i ddiogelu darlledu Cymraeg.Fe ddywedodd Rhys Llwyd, Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae Alun Ffred Jones yn haeddu canmoliaeth am sefyll yn erbyn y fargen frwnt a wnaed gan y BBC yn Llundain a Llywodraeth San Steffan.

Newid y gyfraith ar S4C - buddsoddiad werth ymgyrchu drosto

Llundain Hunt.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i'r newyddion bod Llywodraeth y DU yn bwriadu newid y gyfraith er mwyn cwtogi ar gyllideb S4C.Bydd y Gymdeithas yn cynnal rali "Na i doriadau, Ie i S4C newydd" ar Ddydd Sadwrn 6ed Tachwedd am 11yb, Parc Cathays, Caerdydd.Fe ddywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae ein rhaglenni Cymraeg a'n gwasanaeth darlledu cyhoeddus yn y fantol.

SuperTed yn arwain protest S4C

superted-protest1.jpgRoedd SuperTed yn arwain protest yng Nghaerdydd heddiw yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth i dorri cyllideb S4C.Mae'r Llywodraeth clymblaid Ceidwadwyr- Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu torri cyllideb yr unig sianel teledu Cymraeg a all olygu lleihad yn y gyllideb o rhwng 25% a 40% - er nad oes toriadau tebyg wedi'u bwriadu i ddarlledwyr eraill.Fe ddywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr y

Cymdeithas yr Iaith yn cwrdd â'r AS Mark Williams parthed S4C

cwrdd-gyda-mark-williams.jpgMae aelodau o Gymdeithas yr Iaith yng Ngheredigion wedi datgan eu siom yn dilyn cyfarfod a'r Aelod Seneddol, Mark Williams, ar ddydd Mawrth yr 28ain o Fedi, gan iddynt fethu a derbyn addewid diamwys ganddo y byddai'n pleidleisio yn erbyn unrhyw doriadau i gyllideb S4C.

Protest Llundain yn erbyn cwtogiad S4C

Ymgyrchu yn y 1970au a rôl GwynforDrwy'r 1970au bu ymgyrchwyr iaith yn brwydro dros gael gwasanaeth teledu Cymraeg. Gwrthodwyd talu'r drwydded deledu gan Gymry amlwg, torrwyd i mewn i stiwdios teledu a bu protestwyr yn dringo mastiau a distrywio cyfarpar darlledu. Tyfodd consensws dros sefydlu sianel i raglenni Cymraeg a daeth yn rhan o faniffestoau y pleidiau gwleidyddol ar gyfer Etholiad 1979. Pan enillodd Margaret Thatcher a'r Ceidwadwyr yr Etholiad fe dorasant eu hymrwymiad a'u haddewid gan ddatgan na fyddai Sianel Gymraeg yn cael ei sefydlu.

Bygythiad 'gweithredu'n uniongyrchol' dros ddyfodol S4C

s4c-toriadau.jpgMae ymgyrchwyr iaith wedi bygwth dechrau ymgyrch 'gweithredu'n uniongyrchol' yn erbyn y Llywodraeth Brydeinig dros doriadau arfaethedig i S4C.Mewn llythyr agored at Jeremy Hunt, Gweinidog Diwylliant Llywodraeth y DU, mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Menna Machreth yn dweud y bydd y mudiad yn dilyn tactegau tebyg i'r rhai di-drais a ddefnyddiwyd yn yr ymgyrch i sefydlu'r sianel.

Pryderu am S4C, Cymdeithas yr Iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn parhau yn bryderus am sefydlogrwydd S4C ar ôl y cyhoeddiad heddiw am brif weithredwr dros dro y sianel.Fe ddywedodd Rhodri ap Dyfrig, Llefarydd Darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn falch bod Prif Weithredwr wedi ei benodi, ond yn parhau yn hynod bryderus am sut y bu i sefyllfa fel hon godi ar adeg pan fo angen gosod achos cryf dros y sianel i weinidogion Llywodraeth Prydain. Mae'r aneglurder dros y newidiadau hyn yn sicr wedi creu ansicrwydd mawr na all fod o fudd i achos y sianel.