Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn parhau yn bryderus am sefydlogrwydd S4C ar ôl y cyhoeddiad heddiw am brif weithredwr dros dro y sianel.Fe ddywedodd Rhodri ap Dyfrig, Llefarydd Darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn falch bod Prif Weithredwr wedi ei benodi, ond yn parhau yn hynod bryderus am sut y bu i sefyllfa fel hon godi ar adeg pan fo angen gosod achos cryf dros y sianel i weinidogion Llywodraeth Prydain. Mae'r aneglurder dros y newidiadau hyn yn sicr wedi creu ansicrwydd mawr na all fod o fudd i achos y sianel. Rydym yn galw ar Awdurdod S4C i sicrhau eu bod yn penodi Prif Weithredwr parhaol cyn gynted â bo modd er mwyn gallu llywio S4C a'r cyfryngau Cymraeg eu hiaith trwy'r cyfnod tymhestlog hwn ac i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael tegwch."Ychwanegodd Rhodri ap Dyfrig:"Mae bodolaeth sianel Gymraeg, a sefydlwyd trwy ymgyrch boblogaidd, yn holl bwysig i ddyfodol yr iaith ac rydym yn ffyddiog y gellir cael dyfodol disglair i'r cyfryngau Cymraeg."Mae'r adroddiadau o fwriad y Llywodraeth Brydeinig i dorri cyllideb y sianel yn ergyd uniongyrchol yn erbyn economi a diwylliant Cymru, ac mae anallu'r Ceidwadwyr na'r Democratiaid Rhyddfrydol i weld pwysigrwydd S4C i'r iaith Gymraeg yn arwydd pellach o'u rhagrith. Rhaid datganoli grym dros y cyfryngau i ddwylo Cymru er mwyn sicrhau dyfodol y cyfryngau Cymraeg."