SuperTed yn arwain protest S4C

superted-protest1.jpgRoedd SuperTed yn arwain protest yng Nghaerdydd heddiw yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth i dorri cyllideb S4C.Mae'r Llywodraeth clymblaid Ceidwadwyr- Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu torri cyllideb yr unig sianel teledu Cymraeg a all olygu lleihad yn y gyllideb o rhwng 25% a 40% - er nad oes toriadau tebyg wedi'u bwriadu i ddarlledwyr eraill.Fe ddywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru Nick Bourne AC ym Mis Ebrill:"Fel y gwyddoch yr ydym wedi rhoi cefnogaeth gref i S4C yn y gorffennol ac yn parhau i wneud hynny... rydym yn parhau i fod yn hollol ymrwymedig i ariannu S4C fel yn y gorffennol."Bu'r awdur Catrin Dafydd yn annerch dros 50 o brotestwyr, cyn iddynt orymdeithio i swyddfa'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y ddinas. Dywedodd Heledd Melangell Williams, myfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd ac aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg:superted-protest2.jpg"Bu'r frwydr i sefydlu'r Sianel yn hir a chostus. Llwyddodd y Gymdeithas a'i chefnogwyr i sefydlu'r achos yn y lle cyntaf dros yr angen am sianel ar wahân ar gyfer rhaglenni Cymraeg, ac yna llwyddo i greu consensws eang yng Nghymru o blaid yr achos hwnnw. Carcharwyd nifer o aelodau'r Gymdeithas - am rychwant o gyfnodau o ychydig ddyddiau hyd at 2 neu 3 blynedd, a bu'r gost yn ddrud iawn i nifer.""Mae'r Sianel erbyn hyn yn rhan annatod o fywyd y genedl ac yn wasanaeth anhepgor. Mae'r gwasanaeth hwn yn hollbwysig ac yn angenrheidiol i barhad a ffyniant y Gymraeg. Nawr mae'r Sianel yn wynebu'r argyfwng dwysaf ers cael ei chreu ac mae'n rhaid i bawb sy'n poeni am ddyfodol ein hunaniaeth a'n hiaith frwydro dros ei hamddiffyn."