Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu gweithredoedd y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones i ddiogelu darlledu Cymraeg.Fe ddywedodd Rhys Llwyd, Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae Alun Ffred Jones yn haeddu canmoliaeth am sefyll yn erbyn y fargen frwnt a wnaed gan y BBC yn Llundain a Llywodraeth San Steffan. Rydym yn croesawu ei syniad o sefydlu fforwm, ac yn edrych ymlaen at gydweithio gyda fe i achub unig sianel teledu Cymraeg y byd. Ni fydd yn bosib gwella darlledu Cymraeg a chreu model newydd llwyddiannus os yw'r BBC yn traflyncu S4C."Bydd y Gymdeithas yn trafod y sefyllfa mewn cyfarfod cyhoeddus ar y 30ain Hydref yn Aberystwyth ac yn cynnal rali "Na i doriadau, Ie i S4C newydd" ar Ddydd Sadwrn 6ed Tachwedd am 11yb, Parc Cathays, Caerdydd.Mae'r Gymdeithas hefyd yn rhedeg deiseb arlein 'Na i Doriadau S4C'.