Cymdeithas yr Iaith yn cwrdd â'r AS Mark Williams parthed S4C

cwrdd-gyda-mark-williams.jpgMae aelodau o Gymdeithas yr Iaith yng Ngheredigion wedi datgan eu siom yn dilyn cyfarfod a'r Aelod Seneddol, Mark Williams, ar ddydd Mawrth yr 28ain o Fedi, gan iddynt fethu a derbyn addewid diamwys ganddo y byddai'n pleidleisio yn erbyn unrhyw doriadau i gyllideb S4C. Fe fyddant yn awr yn cadw mewn cysylltiad gyda'r AS ac yn cysylltu ag ef yn dilyn yr 'adolygiad o wariant' ar yr 20ed o Hydref, yn unol a'i gais, i ofyn iddo unwaith eto iddo i arwyddo addewid o'r fath.Dywed Siriol Teifi Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith:"Rydym yn edrych ar bobl fel Mark Williams i wneud safiad dros y Gymraeg. Os nad ydy gwr megis Mark Williams yn barod i wneud does dim llawer o obaith i'r sianel. Fe fyddwn felly yn parhau i bwyso ar ein Aelod Seneddol i ymrwymo i bleidleisio yn erbyn unrhyw doriadau i gyllideb S4C gan fod y sianel unigryw yma yn fuddsoddiad prin ac hollbwysig yn ein hiaith a'r ardal leol."Mae yna dystiolaeth ysgrifenedig yn bodoli bellach sydd yn cadarnhau fod y Llywodraeth clymblaid Ceidwadwyr- Democratiaid Rhyddfrydol yn edrych i fewn i dorri cyllideb yr unig sianel teledu Cymraeg a all olygu lleihad yn y gyllideb o rhwng 25% a 40% - nid oes toriadau tebyg wedi'u cynllunio i ddarlledwyr eraill.Fe fyddai nifer o gwmniau teledu annibynnol yng Ngheredigion, megis Wes Glei yn Felinfach a Pixel Foundary yn Aberystwyth, yn cael eu heffeithio gan y toriadau posibl a nifer yn colli eu swyddi o ganlyniad.