Gwrthod talu trwydded teledu dros S4C

tvlicense.jpgBydd Cymdeithas yr Iaith yn trafod cynnig brys yn galw ar bobl i wrthod talu eu trwydded teledu o fis Rhagfyr dros gynlluniau'r llywodraeth am S4C a fydd, yn ôl ymgyrchwyr, yn 'ddechrau'r diwedd i ddarlledu Cymraeg'.Mae'r cynnig, a drafodir yng Nghyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Aberystwyth ddydd Sadwrn nesaf (30ain Hydref), yn galw ar bobl i wrthod talu eu trwyddedi teledu o'r 1 af o fis Rhagfyr ymlaen er mwyn newid penderfyniad Llywodraeth Llundain "i ladd annibyniaeth" S4C drwy ymuno â'r BBC.Ymgyrchodd Cymdeithas yr Iaith i sefydlu S4C yn saithdegau, dywedodd llefarydd y Gymdeithas mai "gweithredoedd uniongyrchol di-drais yw'r opsiwn olaf mewn unrhyw ymgyrch y mudiad".Fe ddywedodd Rhys Llwyd, Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'r Llywodraeth wedi rhoi darlledu Cymraeg ar lwybr i ddinistr. Trwy gyfuno'r BBC ag S4C yn ychwanegol i'r toriadau eithafol hefyd, mae'n anochel y bydd y sianel yn diflannu. Does dim dewis ond i ni fel bobl gyffredin sydd eisiau rhaglenni Cymraeg i ymgyrchu mor galed a phosib yn erbyn y penderfyniad annemocrataidd hwn. Os na ceir addewid i newid y syniad hurt hwn, ni ddylai bobl Cymru dalu'r sefydliadau sydd yn rhan o ladd yr iaith.""Os mae'r cynlluniau a'r toriadau yn digwydd, dechrau'r diwedd i S4C bydd hi. Mae'n amlwg nad oes clem gan Llywodraeth San Steffan sydd wedi penderfynu ar fympwy dros nos y bydd hyn yn digwydd. Os na ymgyrchwn yn erbyn y toriadau i S4C ynghyd â'r cynlluniau eraill y llywodraeth sy'n mynd i rwygo cymunedau ar draws Cymru, mae'n edrych yn ddu iawn arnom.

"Rydym yn galw am annibyniaeth olygyddol ac ariannol i S4C drwy gadw'r fformiwla gyllido bresennol. Rydym yn cydnabod bod gan y sianel wendidau a bod angen S4C newydd, ond ni fydd hynny'n bosib o dan y cynlluniau hyn. Byddwn ni'n trafod cynnig brys am dyfodol y sianel yn ein cyfarfod cyffredinol ar 30ain Hydref yn Aberystwyth ac yn annog pobl i ddod i'n rali ar Dachwedd 6ed yng Nghaerdydd."Ychwanegodd Rhys Llwyd:"Bu'r frwydr i sefydlu'r Sianel yn hir a chostus. Llwyddodd y Gymdeithas a'i chefnogwyr i sefydlu'r achos yn y lle cyntaf dros yr angen am sianel ar wahân ar gyfer rhaglenni Cymraeg, ac yna llwyddo i greu consensws eang yng Nghymru o blaid yr achos hwnnw. Carcharwyd nifer o aelodau'r Gymdeithas - am rychwant o gyfnodau o ychydig ddyddiau hyd at 2 neu 3 blynedd, a bu'r gost yn ddrud iawn i nifer."Bydd swyddogion y Gymdeithas yn cyfarfod â David Jones AS (Is-ysgrifennydd Seneddol Cymru) ar y 1af o Dachwedd i drafod sefyllfa'r sianel.