Rali S4C: Achub unig sianel Gymraeg y byd

Daeth dros 2,000 i bobl i Rali gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd heddiw, yn erbyn y toriadau arfaethedig i S4C a'r cynlluniau i'r BBC cymryd y sianel drosodd.ralis4c_panorama-bch.jpgYmysg y siaradwyr yr oedd Arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones a'r Aelod Seneddol Llafur Paul Flynn. Cefnogir gan nifer o fudiadau ac undebau. Mae'r Gymdeithas hefyd yn galw am 'S4C newydd', sianel a fydd yn atebol i'w chynulleidfa, hybu creadigrwydd ei gweithwyr ac i fod yn ddarlledwr aml-gyfryngol, datganoledig i Gymru.Mae Mesur Cyrff Cyhoeddus, sydd yn caniatau i weinidogion diddymu S4C a chwtogi ar ei chyllideb, wedi cael ei feirniadu mewn adroddiad Ty'r Arglwyddi yn ddiweddar.Yn siarad yn y rali, fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'r sianel yn fuddsoddiad unigryw yn yr iaith Gymraeg, felly mae'r cynlluniau y Llywodraeth yn mynd i danseilio'n uniongyrchol y Gymraeg fel iaith fyw. Mae'r newyddion bod y Llywodraeth yn ceisio pasio deddfwriaeth a fyddai'n caniatau iddynt ddiddymu S4C yn llwyr, yn cadarnhau ein pryderon mwyaf. Maen nhw'n cynllunio cael gwared a'r gwasanaeth yn llwyr."Rydym yn galw am annibyniaeth olygyddol ac ariannol i S4C drwy gadw'r fformiwla gyllido bresennol ac anghofio am y syniad gwirion o ymuno a'r BBC. Mae angen datganoli darlledu i Gymru a hynny ar fyrder, yn lle bod penderfyniadau annemocrataidd yn cael eu gwneud yn Llundain. Rydym yn cydnabod bod gan y sianel gwendidau, dyna pam rydym yn ymgyrchu dros S4C newydd, ond ni fydd hynny'n bosib o dan y cynlluniau hyn. Rydym yn annog pobl i ddod i'n rali heddiw yng Nghaerdydd i ddangos eu gwrthwynebiad i'r cynlluniau."Lluniau uchod gan Rhys Llwyd. Mwy o luniau da yma gan Celf Calon, ac yma ar flog golwg360.

Siaradwyr: Ieuan Wyn Jones AC, Paul Flynn AS, Angharad Mair, David Donovan (BECTU), Menna Machreth + Ryland Teifi, MC Saizmundo, Swper Ted, Sali Mali, Ty Gwydr ac adloniant arall i'r teulu!Cafodd y Rali gefnogaeth gan: Mentrau Iaith Cymru, Menter Caerdydd, Merched y Wawr, Rhag, Yr Urdd, Cyfeillion y Ddaear, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, BECTU, Cymuned, Cymdeithas y Cymod, UCAC, UMCA, Eisteddfod Genedlaethol, CFfI Cymru.Y Mesur Cyrff Cyhoeddus'S4C cash is bailing out the bankers' - Wales on Sunday - 07/11/10Can we still 4C a future? - Wales on Sunday - 07/11/10Rali S4C - dros 1,500 yn protestio yn erbyn toriadau - golwg360.com - 06/11/10Dros fil yn galw am ddiogelu dyfodol y sianel Gymraeg - BBC Cymru - 06/11/10More than 1,000 protest over future of S4C - BBC Wales - 06/11/10 (Erthygl a Fideo)S4C worth £90m-a-year to Welsh economy says report - Daily Post - 06/11/10S4C is worth £90m a year to Welsh economy, claims study - Western Mail - 06/11/10S4C brings £90m to Welsh economy, finds new research - BBC Wales - 06/11/10