Mae Undebau Llafur ac ymgyrchwyr iaith yn galw ar benaethiaid y BBC ac S4C i dynnu allan o drafodaethau gydag Adran Diwylliant y DG am ddyfodol y darlledwr Cymraeg.Ofna'r grwpiau pwyso fod trafodaethau tu ôl i'r llenni yn digwydd cyn sgrwitneiddio'r Mesur Cyrff Cyhoeddus - a fyddai'n caniatáu cwtogi dros 40% o gyllideb y sianel, newidiadau yn y drefn lywodraethol a'i diddymu'n llwyr - yn San Steffan.Mewn datganiad dywed undeb llafur BECTU: "Mae trafodaethau rhwng y BBC a S4C yn amhriodol cyn penderfyniadau a thrafodaethau yn San Steffan.