S4C: 100 cyntaf i wrthod talu'r drwydded teledu

trwydded-deledu-chwistrellu.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi bod 100 person eisoes wedi ymrwymo i wrthod talu eu trwydded teledu mewn protest yn erbyn y bygythiadau i S4C.Lansiodd y Gymdeithas ei hymgyrch mis diwethaf, ac, yn ôl y mudiad, o fewn pedwar diwrnod roedd y cant cyntaf wedi ymrwymo. Ymysg y bobl sydd wedi datgan eu bwriad i wrthod talu eu trwydded teledu mae'r cantorion Dafydd Iwan, Bryn Fôn a Gai Toms a'r academydd Dr Simon Brooks. Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae dyfodol ein hunig sianel teledu Cymraeg yn y fantol. Mae'n wynebu toriadau i'w chyllid o dros 40% mewn termau real; cael ei thraflyncu gan y BBC; a bod grymoedd yn nwylo Gweinidogion San Steffan i gael gwared a hi yn llwyr. Mae'r sefyllfa yn argyfyngus; dyna pam rydym yn falch bod cymaint o unigolion wedi dechrau datgan eu bod nhw'n bwriadu peidio â thalu'r drwydded teledu. Mae'r llywodraeth yn arbed 94% o'r arian oedden nhw'n arfer talu i'r sianel, toriad sydd yn gwbl annheg.""Mae hi yn frwydr y gallwn ni ennill, ac rydym yn ffyddiog oherwydd bod cefnogaeth y cyhoedd yn codi yn ddyddiol. Rydym yn awr yn gwybod o bapurau cabinet Thatcher yr oedd safiad Gwynfor Evans yn hanfodol yn y ffordd a wnaeth e newid safbwynt y llywodraeth, mae'r bobl sydd yn gwrthod talu'r drwydded deledu heddiw yn dilyn yn yr un traddodiad o weithredu'n uniongyrchol ddi-drais."Fe fydd y mudiad yn cynnal cyfres o gyfarfodydd ar draws Cymru o fis Ionawr i fis Mawrth o'r enw "S4C a'r Dyfodol" er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r bygythiadau i'r sianel a thrafod y ffordd ymlaen.Mae'r newyddion yn dod yn dilyn adroddiad gan bwyllgor trawsbleidiol yn San Steffan sydd yn beirniadu yn hallt y Mesur Cyrff Cyhoeddus a fyddai'n awdurdodi gweinidogion Llywodraeth Prydain i ddiddymu S4C yn ogystal â nifer o gyrff eraill.Ychwanegodd Bethan Williams:"Roedd gwleidyddion y blaid geidwadol wedi bod yn addo cyn yr etholiad y byddai'r sianel yn saff yn eu dwylo nhw, roedden nhw yn ceisio camarwain y cyhoedd. Pwy sydd yn ffrind i ddarlledu Cymraeg fyddai'n cyflwyno Mesur a fyddai'n caniatau toriadau dibaid i'r sianel a chael gwared arni yn llwyr?"Fe fydd y bobl sydd yn gwrthod talu'r drwydded teledu yn gwneud hynny hyd nes bod y Llywodraeth yn sicrhau annibyniaeth y sianel a chyllid digonol i redeg y gwasanaeth angenrheidiol i bobl Cymru. Mae'r mudiad wedi gofyn i bawb sydd am gefnogi'r ymgyrch hon e-bostio'r Gymdeithas ar post@cymdeithas.org neu ffonio. Manylion llawn yma...S4C: 100 yn gwrthod talu'r drwydded deledu - Golwg360 - Ionawr 10, 2011100 yn ymuno gyda phrotest am S4C - BBC Cymru - Ionawr 10, 2011Licence fee boycott over 'threat' to S4C's future - Western Mail - Ionawr 10, 2011Campaign says 100 threaten TV licence protest over S4C - BBC Wales - Ionawr 10, 2011Support grows for S4C campaign - Daily Post - Ionawr 10, 2011