Jill Evans ASE: Gwrthod talu'r drwydded deledu

jill-evans.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi heddiw fod Llywydd Plaid Cymru, Jill Evans wedi cadarnhau y bydd yn ymuno ag ymgyrch y Gymdeithas i wrthod talu am ei thrwydded deledu oherwydd y bygythiad diweddar i ddyfodol y sianel Gymraeg.Yn ogystal, datganodd y Gymdeithas eu bod nhw'n lansio yn swyddogol eu hymgyrch i beidio talu'r drwydded heddiw gan fod y Llywodraeth ddim wedi dangos awydd i newid eu cynlluniau.Dywed Jill Evans ASE a Llywydd Plaid Cymru:"Yr wyf yn falch o gael bod yn rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith er mwyn sicrhau dyfodol i S4C. Fel rhan o'r ymgyrch honno mae'n bleser gennyf gael cynnig fy enw fel un o'r nifer cynyddol o bobl Cymru sydd yn barod i wrthod talu eu trwydded teledu er mwyn sicrhau dyfodol i'r sianel. Drwy wneud hyn yr wyf yn dilyn ôl traed cyn arweinydd Plaid Cymru, Gwynfor Evans, hefyd wrthododd talu ei drwydded teledu a bygwth ymprydio fel rhan o'r ymgyrch wreiddiol yn y 70au a arweiniodd i sefydlu'r sianel yn y lle cyntaf.""Mae'r Torïaid yn ymosod ar ddiwylliant Cymraeg gyda'u cynlluniau peryglus iawn yngl?n â S4C. Cynlluniau sydd yn peryglu ei bodolaeth. Mae'n hanfodol bod y sianel yn cadw ei hannibyniaeth er mwyn iddi amddiffyn ei hun. Mae rhaid iddi gael ei hariannu yn deg ac yn cael ei rheoli yng Nghymru. Mae rhaid i ni sefyll lan yn erbyn y toriadau."Fe fydd y bobl sydd yn gwrthod talu'r drwydded teledu yn gwneud hynny hyd nes bod y Llywodraeth yn sicrhau annibyniaeth y sianel a chyllid digonol i redeg y gwasanaeth angenrheidiol i bobl Cymru. A wnaiff pawb sydd am gefnogi'r ymgyrch hon e-bostio'r Gymdeithas ar post@cymdeithas.org neu drwy ffonio 019706 24501.