Yn dilyn y datganiad y bydd Caerfyrddin a Bangor ymhlith y 66 lleoliad drwy wledydd Prydain lle bydd cynigion yn cael eu gwahodd i ddarparu teledu lleol, mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynnu bod rhaid bod cymal i sicrhau darpariaeth teilwng i'r Gymraeg yn cael ei gynnwys yn y trwyddedi o'r cychwyn cyntaf.Dywedodd Cadeirydd Sir Gaerfyrddin o'r Gymdeithas, Sioned Elin:"Mae angen osgoi'r problemau a achoswyd mewn radio lleol megis Radio Carmarthenshire pryd roedd yr awdurdodau'n methu mynnu bod darpariaeth ddigonol o ddarlledu Cymraeg.