Gwobr 'Caru'r Gymraeg' i gwmni Tarian

gwobr-tarian.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi cyflwyno gwobr i gwmni Tarian Cyf yng Nghaernarfon am gynnig gwasanaeth Cymraeg arbennig i'r cyhoedd. Cyflwynwyd 'Gwobr Caru'r Gymraeg', rhan o fenter newydd y mudiad iaith, i uwch-swyddogion y cwmni fel arwydd o ddiolch i'r cwmni am ddarparu gwasanaeth o safon uchel i'w cwsmeriaid ac i'w darpar gwsmeriaid.Yn cyflwyno'r wobr, fe ddywedodd Osian Jones, trefnydd y Gymdeithas yn y gogledd:"Mae'r fenter yn un cyffrous ac mae'n rhan o ymdrechion pellach y Gymdeithas i hybu defnydd y Gymraeg yn y gymuned. Tra bod yna llawer o gwmnïau sydd yn anwybyddu'r Gymraeg, yn enwedig busnesau mawrion rhyngwladol, mae'n bwysig ein bod yn gwobrwyo'r cwmnïau bach lleol sydd yn meddwl am y gymuned leol.""Rhai wythnosau yn ôl fe lansiodd cwmni Tarian Cyf wefan newydd i werthu yswiriant, mae'r wefan yn gyfan gwbl ddwyieithog, ac yn dangos be all ei gyflawni efo ychydig o barch tuag at yr iaith Gymraeg""Mae Tarian Cyf yn gweld synnwyr busnes mewn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr Gymraeg, bechod na welai cwmnïau mawr rhyngwladol i wneud hynny. Rydym yn falch iawn o gyflwyno'r dystysgrif yma heddiw i'r cwmni, sydd yn cynnig gwasanaeth Cymraeg arbennig i'r cyhoedd."

Ychwanegodd Gwilym Roberts o gwmni yswiriant Tarian:"Diolch am yr anrhydedd o dderbyn tystysgrif Caru'r Gymraeg gan Gymdeithas Yr Iaith Gymraeg. Mae Tarian yn wedi bod yn gweithredu yn yr iaith Gymraeg ers ei sefydlu dros ugain mlynedd yn ôl ac gobeithiwn gyda chymorth ein gwefan newydd y byddwn yn parhau i gynnig gwasanaeth yn y Gymraeg ymhell i'r dyfodol."