Deddf Iaith

Archdderwydd Cymru yn cyflwyno deiseb Cofnod Cymraeg

cyflwyno-deiseb-cofnod-hyd-2011.jpgFe gyflwynodd Archdderwydd Cymru a chyn Aelod Cynulliad Owen John Thomas ddeiseb a lofnodwyd gan dros 1,500 o ymgyrchwyr yn galw am gofnod cwbl Gymraeg o drafodion y Cynulliad heddiw.Wrth i'r Cynulliad ymgynghori ar ei Fil Ieithoedd Swyddogol, fe fydd yr ymgyrchwyr yn galw am sicrhad ar wyneb y Bil y bydd y Cofnod llawn ar gael yn Gymrae

Ymateb Cymdeithas yr Iaith i benodiad y Comisiynydd iaith

meri-huws.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i benodiad Comisiynydd y Gymraeg newydd, Meri Huws.Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Rydym yn croesawu'r ffaith bod yna benodiad, gobeithiwn y bydd Meri Huws yn cymryd y cyfle i gydnabod y newidiadau sylweddol sydd angen er lles y Gymraeg.

AS Llafur yn lansio ymgyrch bancio arlein Cymraeg

bancio-arlein.jpg

Fe fydd AS lleol yr Eisteddfod yn lansio ymgyrch dros fancio arlein yn y Gymraeg ar y cyd gyda Chymdeithas yr Iaith y Gymraeg heddiw ( 2pm, Awst 1af).

Bydd Susan Elan Jones, yr Aelod Seneddol Llafur dros Dde Clwyd, yn ymuno a'r awdures Catrin Dafydd i lansio deiseb yn galw ar i fanciau "gynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn, gan gynnwys gwasanaeth bancio ar-lein llawn yn y Gymraeg".

Adferwch Aled Roberts ac ymddiheurwch

aled-roberts-demrhydd.jpg

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar i Aelodau Cynulliad adfer Aled Roberts fel Aelod Cynulliad yn dilyn y camwahaniaethu ieithyddol yn ei erbyn.

Mae'r mudiad iaith nawr yn gofyn am ymddiheuriad ffurfiol gan y Llywydd a'r Comisiwn Etholiadol am y driniaeth a gafodd ac yr oedi rhag datrys y sefyllfa.

Mil yn galw am Gofnod Cymraeg

cofnod-bach.jpg

Mae dros fil o bobl wedi llofnodi deiseb o blaid Cofnod llawn ddwyieithog o'r trafodaethau yn y Cynulliad ers iddi gael ei lansio wythnos ddiwethaf.

Cynulliad yn 'torri'r Ddeddf Iaith'

senedd-cynulliad.jpg

Cofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni

cofnod-cymraeg-logo3.jpgCychwyn ymgyrch dros ddefnydd y Gymraeg yn y Cynulliad

Mae ymgyrchwyr iaith yn lansio ymgyrch arlein heddiw i gryfhau presenoldeb y Gymraeg yn y Cynulliad (Dydd Gwener, Mehefin 3).

Condemnio polisi iaith Gwesty ar Ynys Môn

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi condemnio Gwesty Carreg Môn ar Ynys Môn wedi i'r stori dorri eu bod yn gwahardd y staff rhag siarad Cymraeg yn y gweithle.Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Yr ydym yn condemnio yn llwyr bolisi'r gwesty. Mae gwrthod yr hawl i staff siarad Cymraeg yn rhywbeth na ellir ei oddef ac yn mynd yn gwbl groes i'r hawliau dynol mwyaf sylfaenol.

Galw am sicrwydd ar strategaeth iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaeth iaith yn fuan ar ôl yr etholiad nesaf, ar ôl i'r Gweinidog Diwylliant datgan heddiw na fydd un yn cael ei gyhoeddi cyn Mis Mai.Fe ddywedodd Ceri Phillips, llefarydd hawliau iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'n hollbwysig bod gan fudiadau iaith ar draws Cymru arweiniad clir am fwriad y Llywodraeth yngl?n â'r iaith. Rydym fel mudiad, fel nifer o sefydliadau eraill, wedi ymateb i ymgynghoriad y Llywodraeth ddwywaith ar strategaeth iaith arfaethedig.

Mesur Iaith yn gyfraith - ymateb Cymdeithas

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb wrth i'r Mesur Iaith ddod yn gyfraith heddiw.Yn ystod y broses ddeddfu, cefnogwyd gwelliant aflwyddiannus gan 18 Aelod Cynulliad i Fesur Iaith a fyddai wedi golygu hawliau cyffredinol i'r iaith Gymraeg, sef rhagdybiaeth gyfreithiol y gallai unigolion dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg.Fe basiwyd y Mesur Iaith Gymraeg ym Mis Rhagfyr y llynedd a fydd yn sefydlu'r iaith fel un swyddogol a chreu rôl Comisiynydd Iaith, ond heb gynnwys hawliau i'r Gymraeg.Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Trwy'r Mesur hwn, rydym wedi