Deddf Iaith

Dau aelod yn y Llys yng Nghaernarfon

Ble mae'r Gymraeg?Bydd Steffan Cravos cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Osian Jones Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng ngogledd Cymru yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon yfory (dydd Mercher Gorffennaf 16) am 9 o'r gloch y bore wedi eu cyhuddo o achosi difrod troseddol i siopau Superdrug a Boots yn Llangefni, Bangor a Chaernarfon ar Fehefin 9.

Achos yn erbyn cyn-gadeirydd a threfnydd y gogledd

Ble mae'r Gymraeg?Yn dilyn gweithredu uniongyrchol yn erbyn cwmnïau Boots a Superdrug fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i wedd-newid y sector breifat mi fydd cyn-gadeirydd y Gymdeithas, Steffan Cravos a trefnydd y gogledd Osian Jones gerbron llys ynadon Caernarfon am 9:15 ar Orffennaf 16 eg.

Boots Ceredigion a Sir Gâr 93-95% Saesneg yn unig!

GweithredBootsLlambed.jpgFe baentiwyd sloganau ar ganghennau Boots yn Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan neithiwr yn dweud "95% Uniaith Saesneg" ac fe godwyd sticeri yn galw am Ddeddf Iaith Newydd ar ganghennau 'Boots' yn Aberystwyth, Castell Newydd Emlyn, Caerfyrddin, a Llanelli ac ar gangen Superdrug yn Aberystwyth a Chaerfyrddin.

Arestio 4 yng Nghaernarfon – Gweithredu yn erbyn Superdrug a Boots

Ble mae'r Gymraeg?Cafodd 4 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, gan gynnwys Trefnydd Rhanbarth y Gogledd - Osian Jones, a chyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith - Steffan Cravos, eu harestio wrth weithredu yn uniongyrchol yn erbyn Boots a Superdrug yng Nghaernarfon neithiwr.

'Mae'r Ysgrifen ar y Mur' - Deddf Iaith Newydd – Yr Her i’r Llywodraeth

Mur Graffiti Deddf Iaith NewyddAm 3 o’r gloch ar ddydd Gwener y 30ain o Fai ar ei stondin ar Faes Eisteddfod yr Urdd bydd bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio dogfen newydd i bwysleisio’r her sydd bellach yn wynebu Llywodraeth y Cynulliad ar fater y Gymraeg.Lawnsir y ddogfen ‘O ddifrif am y Gymraeg: yr her i’r Llywodraeth’, ac fe fydd nifer o ffigyrau amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru yn galw heibio’r uned er mwyn arwyddo m

Rhodri Glyn yn taflu llwch i lygaid Pobl Cymru

Ble mae'r Gymraeg?Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo Rhodri Glyn Thomas o daflu llwch i lygaid pobl Cymru gyda'i gyhoeddiad heddiw ei fod yn galw ar i 57 o gwmniau gydymffurfio a Deddf Iaith. Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith:

Fideo: Protest yn erbyn Morrisons Caernarfon

Protest Cymdeithas yr Iaith yn Morrisons CaernarfonMai 3ydd 2008

Fideo: Picedu Tesco Cyffordd Llandudno

Cymdeithas yr Iaith yn picedu Tesco Cyffordd Llandudno fel rhan o'r ymgyrch i weddnewid y sector breifat.Ebrill 2008

Cymdeithas yr Iaith yn targedu Tesco Rhydaman

Ble mae'r Gymraeg?Fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i atgoffa Llywodraeth yCynulliad o'r angen am ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, byddaelodau o'r Gymdeithas yn picedi y tu fas i siop Tesco yng Rhydamanprynhawn dydd Sadwrn y 26/4 am 2pm. Fe fydd Cymdeithas yr Iaithyn targedi 2 gwmni preifat bob 2 fis o hyn tan ddiwedd y flwyddyn ganganolbwyntio ar gwmniau Tesco a Morrisons yn ystod mis Mawrth ac Ebrill.

Piced Iaith yn y Brifddinas ac ym Mangor

Ble mae'r Gymraeg?Cynhaliwyd bicedi tu allan i Tesco Express Salisbury Road yng nghanol Cathays, Caerdydd a thu allan i Tesco Bangor heddiw. Roedd y digwyddiadau yma yn rhan o ddeufis o weithgaredd gan Gymdeithas yr Iaith yn erbyn Morrisons a Tesco i bwysleisio'r angen am Ddeddf Iaith Newydd gynhwysfawr. Bydd mwy o bicedi a phrotestiadau yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnosau nesaf.