Deddf Iaith

Chwarae Jôc Ffwl Ebrill ar Tesco a Morrisons

Ble mae'r Gymraeg?Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn sticeri siopau Morrisons a Tesco drwy Gymru neithiwr. Targedwyd siopau yn perthyn i'r ddau gwmni ym Mangor, Caernarfon, Aberystwyth, Caerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd (yn Nhrefynach a dwy ar Heol y Bont Faen). Peintiwyd slogan ar wal siop Morrison yng Nghaernarfon.

Fideo: Targedu Morrisons a Tesco Bangor

Rhan o'r ymgyrch i weddnewid y sector breifat 2008.

Maer tref Caerfyrddin yn cefnogi ymgyrch Cymdeithas yr Iaith

Ble mae'r Gymraeg?Fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad o'r angen am ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, bydd Maer Tref Caerfyrddin yn llenwi ffurflen gwyno y tu allan i siop Tesco yng Nghaerfyrddin bore dydd Iau y 27/3 am 11am.

Fideo o Rali Dathlu'r Gymraeg, Bae Caerdydd, Chwefror 2008

Daeth dros 300 o bobl i Rali Genedlaethol Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd y tu allan i adeilad y Cynulliad ym Mae Caerdydd Dydd Sadwrn 23ain Chwefror.

Mwy o reswm i beidio...

Archfarchnad MorrisonsHeddiw bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyfarfod aelodau marchnata cwmni Morrisons, i ddilyn y cyfarfod a fu rhwng y cwmni ar Gymdeithas yn ôl yn mis Mehefin 2007. Bwriad y cyfarfod oedd asesu'r datblygiadau diweddar yn eu polisi au defnydd o'r iaith Gymraeg.

Rali Genedlaethol Dathlu'r Gymraeg

Rali Dathlu'r GymraegDaeth dros 300 o bobl i Rali Genedlaethol Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd y tu allan i adeilad y Cynulliad ym Mae Caerdydd Dydd Sadwrn 23ain Chwefror. Bwriad y Rali oedd cadw'r pwysau ar y llywodraeth i sicrhau Deddf Iaith Newydd gynhwysfawr ar ôl gweld y llywodraeth yn torri dau o addewidion Cymru'n Un yn ystod y misoedd diwethaf.

Cydweithio dros y Gymraeg - Cyfarfod Arwyddocaol gyda'r Gweinidog Treftadaeth

Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith 2008Fore Llun y 4ydd o Chwefror, cafwyd cyfarfod allweddol rhwng cynrychiolaeth o Fudiadau Dathlu’r Gymraeg â’r Gweinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas.Croesawyd bodolaeth Mudiadau Dathlu’r Gymraeg, sef grŵp ymbarél o 13 mudiad Cymraeg, gan y Gweinidog.

Ymateb i Arolwg Dragon's Eye - Yr Angen am Ddeddfwriaeth Newydd

Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith 2008Wrth ymateb i ganlyniadau arolwg diweddar gan raglen BBC Dragon's Eye a oedd yn honni bod nifer isel iawn o Gymry Cymraeg yn defnyddio gwasanaethau Cymraeg y sectorau preifat a chyhoeddus, mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod hyn yn brawf pendant o'r angen am Ddeddf Iaith Newydd.

Dryswch Llywodraeth dros Deddf Iaith Newydd

Rhodri Morgan Bore yma bu aelodau o Rhanbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith yn picedi Rhodri Morgan a oedd yn ymweld â Chaernarfon. Roedd y Gymdeithas yno i danlinellu'r angen am ddeddf iaith gynhwysfawr.Pwyswch yma i weld fideo o'r biced - dailypost.co.uk

"Mae'r Gymraeg yn iaith estron" yng Nghymru dywed Focus

Ble mae'r Gymraeg?Fe ddywedodd un o weithwyr cangen Caerfyrddin o Focus ddoe 08/01/08, mai iaith estron yw'r Iaith Gymraeg, yng Nghymru a'i fod yn amharchus gofyn cwestiwn trwy gyfrwng y Gymraeg! Cred Cymdeithas yr Iaith fod yr anwybodaeth yma yn amlygu'r diffyg hyfforddiant a gynigir gan gwmiau mawrion i'w staff ynghylch Cymru a'r iaith Gymraeg.