Cydweithio dros y Gymraeg - Cyfarfod Arwyddocaol gyda'r Gweinidog Treftadaeth

Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith 2008Fore Llun y 4ydd o Chwefror, cafwyd cyfarfod allweddol rhwng cynrychiolaeth o Fudiadau Dathlu’r Gymraeg â’r Gweinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas.Croesawyd bodolaeth Mudiadau Dathlu’r Gymraeg, sef grŵp ymbarél o 13 mudiad Cymraeg, gan y Gweinidog.

mudiadaudathlurgymraeg.jpgO'r chwith i'r dde - Alun Owens (urdd), Rhodri Glyn Thomas (Gweinidog Treftadaeth), Elfed Roberts (Eisteddfod Genedlaethol), Catrin Dafydd (Cymdeithas yr Iaith), Elin Maher (Rhag)Meddai Catrin Dafydd ar ran Mudiadau Dathlu’r Gymraeg:"Cafwyd cyfarfod cadarnhaol heddiw ac rydym yn awyddus i barhau â’r ddeialog dros y cyfnod allweddol nesaf. Goleuwyd ni’n ogystal ar nifer o’r datblygiadau pwysig sydd yn y broses o gael eu gweithredu."Ychwanegodd:"Mae’n amlwg fod gwaith caled o’n blaenau yng nghyd-destun sicrhau fod y grymoedd angenrheidiol ar ddeddfu yn y Gymraeg yn symud o Lundain i Gaerdydd."Mae cynnwys ac ystod y gorchymyn cymhwysedd ddeddfwriaethol yn holl bwysig er mwyn sicrhau cyfres o fesurau a fydd yn sefydlu hawliau pobl Cymru i’r Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf. Eu hawliau i dderbyn eu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws bob sector yng Nghymru.Mae datblygiadau eraill yn caniatáu parhad i’r drafodaeth, gyda lansiad dogfen ‘Creu Cymru Gwbwl Ddwyieithog: Cyfleoedd deddfu a gweithredu polisi’ Cwmni Iaith ym Mae Caerdydd yfory, a ‘Diwrnodau Dathlu’r Gymraeg’ - cyfres o weithgareddau gan aelodau Mudiadau Dathlu’r Gymraeg ar draws Cymru.Nodiadau:Grŵp ymbarél a’i ffurfiwyd dechrau Haf 2007 yw Mudiadau Dathlu’r Gymraeg.Mae’r grŵp ymbarél yma’n cynnwys 13 mudiad i gyd, sef: Mentrau Iaith Cymru, Eisteddfod Genedlaethol, Undeb Amaethwyr Cymru, Mudiad Ffermwyr Ifanc, RhAG, Cymuned, Merched y Wawr, Urdd Gobaith Cymru, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Cymdeithas Alawon Gwerin, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, UCAC, UMCA, UMCB.