Chwarae Jôc Ffwl Ebrill ar Tesco a Morrisons

Ble mae'r Gymraeg?Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn sticeri siopau Morrisons a Tesco drwy Gymru neithiwr. Targedwyd siopau yn perthyn i'r ddau gwmni ym Mangor, Caernarfon, Aberystwyth, Caerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd (yn Nhrefynach a dwy ar Heol y Bont Faen). Peintiwyd slogan ar wal siop Morrison yng Nghaernarfon.

Mae hyn yn rhan o'r ymgyrch yn erbyn Tesco a Morrison a fydd yn parhau dros y mis nesaf, yn galw arnynt i fabwysiadu polisi dwyieithog cynhwysfawr ac effeithiol er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu fel cyrff cwbwl ddwyieithog. Mae'r grwp pwyso yn bygwth rhagor o weithredu yn erbyn y ddwy siop gadwyn os na welir newidiadau cadarnhaol yn eu polisi iaith.Meddai Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Mae angen i Tesco a Morrisons weld fod yn rhaid parchu'r Iaith Gymraeg. Gan nad yw'r llywodraeth, hyd yma, wedi cymryd camau i sicrhau hawliau ieithyddol i bobl Cymru yn y sector breifat mae angen atgoffa'r cwmnioedd yma o'u cyfrifoldeb tuag y cwsmeriaid sydd yn sicrhau eu helw blynyddol enfawr."Bydd Cymdeithas yr Iaith yn targedu gwahanol gwmniau cadwyn amlwg dros y flwyddyn nesaf er mwyn pwysleisio'r angen am ddeddf iaith newydd. Mwy o fanylion yma...Stores hit by Welsh signage protests, Daily Post, Ebrill 2 2008Language Protest at Stores, South Wales Evening Post, Ebrill 2 2008

CAERFYRDDINmorrisons-caerfyrddin1.jpgmorrisons-caerfyrddin.jpgCAERNARFONmorrisons-caernarfon1.jpgmorrisons-caernarfon2.jpgmorrisons-caernarfon3.jpgtesco-caernarfon1.jpgtesco-caernarfon2.jpgtesco-caernarfon3.jpgCAERDYDDtesco-caerdydd1.jpgtesco-caerdydd2.jpgtesco-caerdydd3.jpgtesco-caerdydd4.jpgtesco-caerdydd5.jpg