Deddf Iaith

Ateb Niwlog Rhodri ar fater Deddf Iaith

Rhodri MorganMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg o'r farn fod y Blaid Lafur yn graddol newid ei thiwn ar gwestiwn Deddf Iaith.

Dros 10,000 o Gymry yn cefnogi Deddf Iaith Newydd

Deiseb Deddf IaithAm 10.30 y.b. dydd Mercher y 6ed o Chwefror fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyflwyno deiseb i Lywodraeth y Cynulliad ag arni dros 10,000 o enwau pobl sydd yn cefnogi cael Deddf Iaith Newydd dros y Gymraeg.

Targedu siop Morrisons ym Mangor

Archfarchnad MorrisonsCafodd siop Morrisons ym Mangor ei dargedu heddiw ar ddiwedd protest yn galw am Ddeddf Iaith, gan tua 250 o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Fe ddechreuodd y brotest wrth y cloc yn y dre cyn i'r protestwyr orymdeithio at y siop ym Mangor Uchaf.Pan gyrhaeddodd y protestwyr Morrisons fe feddianwyd y siop, ac eisteddodd y 250 o brotestwyr wrth y fynedfa.

Protest Deddf Iaith Bangor

deddf-iaith-bangor.jpgAm 2 o'r gloch Dydd Sadwrn Ionawr 27ain ger y cloc ym Mangor fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal y ddiweddaraf mewn cyfres o brotestiadau dros Ddeddf Iaith Newydd.Y siaradwyr yn y Rali fydd Steffan Cravos (Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg), Bethan Williams (Cadeirydd Cell Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor) a Hywel Williams AS (Aelod Seneddol Arfon a llefarydd Plaid Cymr

Alun Pugh yn Cytuno i gyfarfod â Chymdeithas yr Iaith i drafod Mesur Iaith

Lobi CynulliadAm 12:30 heddiw cyflwynodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddrafft mesur iaith Gymraeg ger bron y pleidiau yn y Cynulliad. Cafodd y digwyddiad ei noddi gan y Blaid Geidwadol, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol a chafwyd araith gan bob un o'r pleidiau.

Cyflwyno Drafft Mesur ar y Gymraeg

senedd-rhodri-bach.jpgAr ddydd Mercher y 29ain o Dachwedd fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno drafft mesur ar yr iaith Gymraeg ger bron y pleidiau gwleidyddol ym mae Caerdydd.

Cyngor Ceredigion yn cydnabod Saesneg fel iaith swyddogol

keith-evans-ceredigion.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb yn chwyrn i benderfyniad Bwrdd Gweithredol Cyngor Ceredigion i gyhoeddi pob adroddiad a dogfen ar eu gwefan yn Saesneg gyda nodyn y cant eu cyfieithu i'r Gymraeg fel y bydd adnoddau'n caniatau.

Arestio 4 ar ôl protest iaith

brantano-peacocks.jpgAm 12.30pm heddiw (Dydd Sadwrn 14/10), gorymdeithiodd tua 100 o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg draw at ‘Ystwyth Retail Park’, yn Aberystwyth, i gynnal Rali Brotest.

Morrisons i ystyried troi at y Gymraeg

Archfarchnad MorrisonsMae cwmni Morrisons wedi cytuno i ystyried y posibilrwydd o weithredu cynllun saith pwynt er mwyn gwneud defnydd llawn o'r Gymraeg yn eu siopau ar ôl cyfarfod â dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Bradford heddiw.

Dirwy o £200 i Iestyn ap Rhobert

Achos_Llys_Iestyn_ap_003.jpgCafodd Iestyn ap Rhobert (27 oed o Langadog) ddirwy o £200 gan Llys Ynadon Caerfyrddin heddiw, ond ni orfodwyd iddo dalu iawndal i gwmni preifat a oedd yn cynrychioli Debenhams.