Dirwy o £200 i Iestyn ap Rhobert

Achos_Llys_Iestyn_ap_003.jpgCafodd Iestyn ap Rhobert (27 oed o Langadog) ddirwy o £200 gan Llys Ynadon Caerfyrddin heddiw, ond ni orfodwyd iddo dalu iawndal i gwmni preifat a oedd yn cynrychioli Debenhams.

Roedd Iestyn ap Rhobert yn gwynebu cyhuddiad o ddifrod troseddol am dynnu arwydd uniaith Saesneg enfawr a oedd yn dynodi safle datblygiad newydd Debenhams yn nhre Caerfyrddin.Roedd y cwmni wedi hawlio iawndal o dros £1,300, ond gwrthodwyd hyn gan yr Ynadon gan fod yr arwydd yn torri Cynllun iaith Cyngor Sir Gâr, sy'n dynodi fod rhaid i bob arwydd sy'n cynnwys logo y Cyngor fod yn ddwyieithog.Achos_Llys_Iestyn_ap_002.jpgIestyn (ail o'r chwith) a chefnogwyr, tu allan i'r llys heddiw.Tynnwyd yr arwydd gan Iestyn ar y cyd â Llyr Edwards (29 oed o Bont Tweli) ar Fehefin y 9fed eleni. Cafodd Llyr Edwards rybudd swyddogol gan yr heddlu.Yn ei ddatganiad i'r Llys, dywedodd Iestyn ap Rhobert:"Rwyf o'r farn bod angen deddfwriaeth cadarnhaol o blaid yr Iaith Gymraeg i'w gynnwys fel iaith masnachol yn y sector breifat yng Nghymru, ac yn gyfartal gyda'r Saesneg o fewn gweithrediad gweinyddol cwmnïau preifat.""Mae'r rhan helaeth o'r sector breifat yn dangos difaterwch a dirmyg tuag at y Iaith Gymraeg, ac fy amcanion i o fewn Cymdeithas yr Iaith yw i wthio cyrff etholedig i orfodi'r sector breifat i newid eu hagweddau.""Mae esiamplau o ieithoedd tebyg fel y Gatalaneg a Basgeg eisoes wedi dangos llwyddiant yn y sector breifat, ac mae'n hen bryd i gynghorau a llywodraethau ar bob lefel yng Nghymru ddeddfwriaethu i sicrhau fod hawlian gan bobl Cymru I ddefnyddio?r Gymraeg yn wrth ddelio gyda chwmnïoedd preifat."DEBENHAMSCred Cymdeithas yr Iaith fod cwmni Debenhams wedi cychwyn yn wael iawn trwy ddewis enw Saesneg anaddas (St Catherine's Walk) ar gyfer y datblygiad, a chodi arwydd enfawr uniaith Saesneg i ddynodi'r datblygiad, a thrwy wneud hyn eu bod wedi trin y gymuned leol gyda dirmyg.Trwy dynnu'r arwydd hwn, mynnodd Cymdeithas yr Iaith fod Debenhams a chwmnïau eraill fel Tesco yn parchu'r gymuned leol, yr iaith Gymraeg ac yn rhoi cyfleon cyflogaeth da yn lleol.DEDDF IAITH NEWYDDAr lefel Genedlaethol, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am Ddeddf Iaith Newydd a fyddai'n sicrhau bod rhaid i gwmnïau preifat ddarparu gwasanaeth hollol ddwyieithog i'w cwsmeriaid.Bu i'r ymgyrch dros Ddeddf Iaith gymryd cam pendant iawn ymlaen yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe pan siaradodd Adam Price AS o Blaid Cymru, Eleanor Burnham AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol a Lisa Francis AC o'r Blaid Geidwadol o blaid cryfhau'r ddeddf iaith bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus ar y Maes.Ar hyn o bryd, mae'r Gymdeithas yn casglu enwau ar ddeiseb genedlaethol dros Ddeddf Iaith Newydd, a bydd y mudiad yn parhau gyda'r gwaith o gasglu enwau ar y ddeiseb o hyn i fis Hydref pryd y bwriedir trefnu lobi ar Ddeddf Iaith yn y Senedd yn Llundain ac yn y Cynulliad yng Nghaerdydd.