Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar gynghorwyr Sir Gaerfyrddin i adalw'r Cynllun Datblygu Lleol ar frys, wrth i wrthwynebiad lleol i gynllun, a fyddai'n golygu codi tua 11,600 o gartrefi newydd yn yr ardal, gynyddu. Bydd y cynllun yn cynnwys codi dros fil o gartrefi newydd ar gyrion Gorllewinol Caerfyrddin.