Cannoedd yn cefnogi protest S4C yng Nghaerfyrddin

Daeth cannoedd o bobl i gyfarfod protest 'Na i Doriadau S4C' tu allan i adeilad y BBC ar stryd Priordy Caerfyrddin heddiw. Ymysg y siaradwyr yr oedd Dafydd Iwan, Nerys Evans AC, Ffred Ffransis a Llew a Steffan o Ysgol Bro Myrddin gyda'r band ifanc lleol Cyfoes hefyd yn diddanu'r dorf.caerfyrddin-s4c-bbc1.JPGDywedodd Sioned Elin, Cadeirydd Rhanbarth Sir Gar - Cymdeithas yr Iaith:caerfyrddin-s4c-bbc5.jpg"Mae angen i bawb ddeffro i sylweddoli y gallai S4C, fel ryn ni'n ei 'nabod, ddod i ben erbyn 2015. Mae'r BBC wedi bradychu pobl Cymru trwy gydweithio gyda Llywodraeth Llundain i gymryd drosodd y sianel. O ganlyniad, ni byddai S4C o 2015 ymlaen ond yn is-adran o'r BBC yn gorfod cystadlu am adnoddau. Rhaid i ni atal hyn rhag ddigwydd."Yn dilyn y brotest tu allan i'r BBC fe aeth nifer o'r protestwyr ymlaen at swyddfa Simon Hart AS yn Hendy Gwyn ar Daf er mwyn datgan eu gwrthwynebiad i benderfyniad y Llywodraeth i anwybyddu barn holl bleidiau gwleidyddol Cymru. Dywedodd Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Cyn y Nadolig ysgrifennodd arweinydd pob plaid yng Nghymru at David Cameron yn gofyn am 'archwiliad cynhwysfawr' o'r sianel, ond gwrthodwyd y cais. Nid yn unig na wnaeth y Llywodraeth ymgynghori gyda unrhyw un o Gymru am eu cynllun munud olaf i'r BBC draflyncu'r sianel, maent hefyd wedi anwybyddu arweinydd pob plaid yng Nghymru."caerfyrddin-s4c-bbc3.JPGMae Simon Hart AS wedi chwarae ei ran yn y twyll yma drwy geisio camarwain aelodau o Gymdeithas yr Iaith mewn ebost lle y dywedodd gelwydd ynghylch maint y toriadau i gyllideb S4C mewn cymhariaeth a llefydd eraill o fewn y DCMS. Mewn ebost at aelod o'r Gymdeithas dywed Simon Hart:"... we discussed the matter with the PM direct which I think made a real difference in that the final announcement showed that the S4C cuts were in fact less than anywhere else in DCMS."Ychwanegodd Ms Machreth:"Roedd hyn yn gelwydd noeth, y gwir yw y bydd nifer fawr o feysydd sy'n cael eu hariannu gan DCMS yn gweld toriadau lot llai na'r 40% mewn termau real fydd yn cael ei dorri o gyllideb S4C. Mi fydd y British Museum, Natural History Museum, Imperial War Museum, National Gallery, a llu o amgueddfeydd eraill yn Llundain ond yn gweld toriad o 15%. Yn ogystal,13% o doriad fydd yn dod i'r 'Royal Household'.""Yn hytrach na cheisio rhoi 'spin' a chamarwain pobl ynghylch maint y toriadau i gyllideb y sianel fe ddylai gwleidyddion megis Simon Hart weithio ar sicrhau fod S4C yn cael ei thynnu allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus. Mae'n rhaid gwarantu annibyniaeth rheolaeth ac annibyniaeth olygyddol lwyr i S4C heb ymyrraeth oddi wrth y BBC na'r Llywodraeth. Mae fformiwla gyllido annibynnol ar gyfer y sianel Gymraeg, ar sail chwyddiant, yn hanfodol er mwyn sicrhau arian teg i greu rhaglenni Cymraeg o safon. Rydym yn cydnabod y gallai S4C berfformio yn well - dyna pam rydym yn ymgyrchu dros S4C newydd, ond ni fydd hynny'n bosib o dan y cynlluniau hyn." swyddfa-simon-hart.jpg200 yn protestio am S4C, BBC Cymru, 19/02/2011Language society's BBC Carmarthen studio demo over S4C, BBC Wales, 19/02/2011BBC 'has betrayed the Welsh people' over plans for S4C, Wales on Sunday, 20/02/2011