Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi ei bod yn bartner yn un o Wyliau mwyaf newydd Cymru sy'n digwydd yng Nghaerfyrddin y penwythnos hwn. Cynhelir Gwyl Macs ar faes y Sioe Nant y Ci ger Caerfyrddin ar Ddydd Sadwrn 1/9 a Dydd Sul 2/9.
Bu dros 100 o bobl yn protestio tu allan i Neuadd y Sir, Caerfyrddin rhwng 8.30am a 10am y bore yma (23ain Gorffennaf ) cyn cyfarfod pwysig o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin. Trefnwyd y brotest gan rieni a llywodraethwyr, a bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yno yn cefnogi.
Anfonwyd Gwenno Teifi i garchar Eastwood Park, swydd Gaerloyw am 5 diwrnod am wrthod talu dirwy o £120 am beintio slgan yn galw am Ddeddf Iaith ar ffenest siop esgidiau Brantano yn Aberystwyth yn ôl ym mis Hydref 2006.
Bydd Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith, Angharad Clwyd, yn dweud wrth gyfarfod cyhoeddus a drefnir gan gymuned leol Waungilwen heno fod perygl i ni golli ein cymunedau Cymraeg fesul ychydig.
Cyfarfu nifer o fudiadau Cymreig ar Faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Iau diwethaf i drafod sut i bwyso ymhellach ar Lywodraeth Cymru am Ddeddf Iaith gryfach.
Yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd bydd plant, rhieni a llywodraethwyr yn cyfrannu at ffeil i’w danfon at Weinidog Addysg newydd Llywodraeth y Cynulliad yn galw am gyfle newydd i ysgolion pentrefol.
Am y tro cyntaf erioed, cynhelir Llys Droseddol ar faes Eisteddfod yr Urdd yr wythnos nesaf. Trefnir y Llys Iawnderau Cymunedol gan Gymdeithas yr Iaith am 12.00 Llun 28ain Mai tu allan i uned Cyngor Sir Caerfyrddin ar y maes.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Eifion Bowen, Pennaeth Cynllunio Cyngor SirGâr, i derfynu'r broses o ganiatau i gwmniau datblygu fynd ati eu hunain i baratoi'r Astudiaethau Effaith ar y Gymraeg.
Bore heddiw (Llun 14/05/07) bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyhoeddi cynllun i ymosod ar ddwy ysgol bentrefol Gymraeg arall – sef Llanarthne a Llansawel.