Caerfyrddin Penfro

GIG: Cymraeg yn Hanfodol

29.12.05gig_bach.jpgeusebio.JPGcigars.JPGcoda.JPGjava.JPGjava1.JPG

Datgan diwedd swyddogol i gyfres o weithredoedd uniongyrchol Cymdeithas yr Iaith

Ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr y 3ydd, yn Rali Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle, Caerfyrddin daeth cyfres o weithredoedd uniongyrchol Cymdeithas yr Iaith yn erbyn y llywodraeth i ben.

Dyfarniad llys - Steffan yn ddi-euog!

Steffan CravosNeges gan Steffan o'r LlysRwyf yn hynod falch fod y Llys wedi fy nghael yn ddi-euog. Rwyn aelod o Gymdeithas yr Iaith sy’n fudiad di-drais a phrotest ddi-drais a gynhaliwyd yn stiwdios Radio Carmarthenshire nôl yn 2004. Buom yn protestio pryd hynny am fod Radio Carmarthenshire yn darlledu yn Sir Gâr bron yn gyfangwbl Saesneg ac yn dangos amharch llwyr at natur ieithyddol y Sir.

Mudiad di-drais - Cravos yn ddi-euog

Steffan CravosWynebodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - Steffan Cravos - achos Llys yn Hwlffordd heddiw, wedi ei gyhuddo o niwed corfforol, yn dilyn protest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn stiwdio Radio Carmarthenshire dros flwyddyn yn ôl. Mae Steffan Cravos yn gwadu'r cyhuddiad.

Gwylnosau i gefnogi ysgolion pentrefol

Cadwn Ein Hysgolion.JPGAr y diwrnod y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn trafod cynnig gan y Democratiaid Rhyddfrydol ar ddyfodol ysgolion bychain (Dydd Mawrth 8/11/05), bydd Cymdeithas yr Iaith ac ymgyrchwyr dros ysgolion pentrefol yn cynnal 2 Wylnos.

Annog ymgyrchwyr i frwydro gyda phob ysgol unigol!

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMewn Cyfarfod Cyhoeddus a gynhelir am 7pm heno yng Ngwesty Llwyn Iorwg (Ivy Bush) Caerfyrddin bydd Cymdeithas yr Iaith yn galw ar ymgyrchwyr dros ysgolion pentrefol o bob cwr i ymuno a phob cymuned leol yn y sir pan fygythir yr ysgol.

Aelodau Cynulliad yn trafod strategaeth ysgolion Sir Gâr

Cadwn Ein Hysgolion.JPGBydd 2 Aelod Cynulliad yn ymuno a chynrhychiolwyr o bleidiau gwleidyddol eraill mewn Fforwm Cyhoeddus nos Fawrth 25ain o Hydref i drafod Strategaeth ddadleuol gan Cyngor Sir Caerfyrddin a allai arwain at gau hyd at 40 o ysgolion pentrefol Cymraeg.

Gofyn i'r Gweinidog gondemnio Cyngor Sir Gâr

alun_pugh.jpg Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi galw ar Alun Pugh, Gweinidog Diwylliant y Cynulliad, i gondemnio Cyngor Sir Caerfyrddin am eu strategaeth addysg a allai arwain at gau degau o ysgolion pentrefol Cymraeg.

Yr angen am ymgynghoriad agored trwy'r sir.

Cadwn Ein Hysgolion.JPG Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin wedi trafod heddiw cychwyn amserlen o ymgynghori lleol a allai arwain at gau yn y pendraw hyd at 40 o ysgolion pentrefol Cymraeg.

Cyngor yn barod i gau ysgolion.

Cadwn Ein Hysgolion.JPG Cred Cymdeithas yr Iaith mai mynd ati yn y dull hen ffasiwn o gau ysgolion, er mwyn arbed arian yn hytrach na ‘moderneiddio’ yw Agenda Cyngor Sir Gaerfyrddin, gan nad oes ganddynt unrhyw fodd i gyllido'u Cynllun.