Fe dderbyniodd chwech aelod o Gymdeithas yr iaith Gymraeg rybudd gan yr heddlu, yn ystod y dydd heddiw, am achosi difrod troseddol yn ystod protest yn stiwdio Radio Carmarthenshire nôl ym mis Gorffenaf.
Fe ymgasglodd dros 70 o bobl, a oedd yn cynrychioli cymunedau sydd tan fygythiad yn Sir Gaerfyrddin, yng Ngwesty'r Stag & Pheasant Carmel heno, fel y cam cyntaf yn y broses o sefydlu fforwm newydd yn Sir Gaerfyrddin, a fydd yn ymgyrchu dros ddiogelu a datblygu ein hysgolion pentrefol yn ganolfannau addysg a datblgyu cymunedol.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael ei ddal yn ceisio camarwain Gweinidog Addysg y Cynulliad ynghylch eu cynllun dadleuol i gau degau o ysgolion pentrefol Cymraeg yn y sir.
Yn dilyn cyfarfod o Gyngor Sir Caerfyrddin y bore yma pryd y derbyniwyd penderfyniad Bwrdd Gweithredol y Cyngor i fabwysiadu Strategaeth o gau dros 30 o ysgolion pentrefol Cymraeg, cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith y bydd yn ymgyrchu’n ddygn dros gael gwared â’r Strategaeth ac yn sicrhau y bydd llais y cymunedau sydd dan fygythiad yn cael ei glywed.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud apêl funud olaf dros y penwythnos ar i gynghorwyr Sir Gaerfyrddin beidio â chaniatau i’w cyngor sir gael ei weithredu fel corfforaeth breifat yn hytrach na fforwm democrataidd y bobl.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhyddhau gwybodaeth heddiw sy'n chwalu honiad arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Meryl Gravell, fod consensws gwleidyddol ynghylch eu strategaeth gontrofersial i geisio cau bron bob ysgol sydd â llai na hanner cant o blant yn y sir. Mewn ymateb i'r Gymdeithas, dywed Plaid Cymru a'r Blaid Geidwadol eu bod yn gwrthwynebu'r strategaeth.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn i Gynghorwyr Llafur ar Gyngor Sir Caerfyrddin - i beidio a rhoi cefnogaeth i'r Strategaeth gontrofersial newydd a allai olygu cau dros 30 o ysgolion pentrefol Cymraeg hyd nes bod 6 mis o ymgynghori eang wedi bod trwy't sir ar egwyddorion y strategaeth.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin unwaith eto heddiw’n lansio ei strategaeth amhoblogaidd i “foderneiddio” addysg – a hynny dros fis cyn y bydd y cynghorwyr yn trafod y mater ar yr 8ed Rhagfyr gan ddangos dirmyg at ddemocratiaeth.
Cafodd tua 50 o gwmniau megis Next, Marks & Spencer, Body Shop a Boots, eu targedu yng Nghaerfyrddin neithiwr, gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.