Corfforaeth Breifat yn cymryd drosodd Cyngor Sir Gâr

Cadwn Ein Hysgolion.JPG Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud apêl funud olaf dros y penwythnos ar i gynghorwyr Sir Gaerfyrddin beidio â chaniatau i’w cyngor sir gael ei weithredu fel corfforaeth breifat yn hytrach na fforwm democrataidd y bobl.

Mae si ar led na bydd arweinwyr a swyddogion y cyngor hyd yn oed yn caniatau pleidlais Ddydd Mercher nesaf ar y Strategaeth Moderneiddio Addysg a fydd yn arwain at gau tua tri dwsin o ysgolion pentrefol Cymraeg y sir.Mae’n debyg y bydd y mater yn codi ar yr agenda o dan adroddiad o’r Bwrdd Gweithredol yn hytrach nag eitem yn ei hawl ei hunan, a gallai arweinwyr y Cyngor adrodd yn unig heb roi unrhyw gyfle pleidleisio. Dadl y swyddogion fydd eu bod ond yn penderfynu sut i weithredu polisi sydd eisoes yn bodoli gan fod y Cynllun Trefniadaeth Ysgolion – a basiwyd ym 2001 – yn dweud “ei fod yn anochel y byddai llai o ysgolion”.Mae llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar addysg, Ffred Ffransis, yn dweud mewn llythyr agored at yr holl gynghorwyr “fod y Swyddogion yn defnyddio pob ystryw i geisio rhwystro trafodaeth gyhoeddus ac yn trin y Cyngor fel corfforaeth breifat wrth geisio gwthio trwodd eu barn fel arbenigwyr.” Dywed"“ Yn ôl yn 2001, byddech chi fel cynghorwyr wedi dehongli ymadrodd fel 'ei fod yn anochel y byddai llai o ysgolion' i olygu y byddai ambell ysgol yn cael ei chau petai niferoedd yn syrthio’n isel. Ni all y swyddogion ddefnyddio hwn fel mandad i gau bron pob ysgol bentrefol Gymraeg yn y sir heb roi cyfle i chi fel cynghorwyr ac i bobl y sir gael trafod y strategaeth yn llawn.""Eich cyfrifoldeb chwi Ddydd Mercher yw rhoi terfyn ar ymdrechion i droi’r Cyngor Sir yn gorfforaeth breifat yn lle bod yn fforwm democrataidd. Mae’r swyddogion wedi llunio tu ôl i ddrysau caeedig manylion strategaeth sy’n effeithio ar bob ysgol a chymuned trwy’r sir heb ymgynghori ag unrhyw un.""Maen nhw wedi lansio’r strategaeth ddwywaith yn gyhoeddus cyn i chi fel cynghorwyr hyd yn oed drafod y mater yn null P.R. cwmniau mawr sy’n arfer cael eu ffordd. Yn awr, maent yn bwriadu adrodd yn unig i chwi am eu bwriadon fel cyfarwyddwyr cwmni’n adrodd i gyfranddalwyr gan dderbyn cwestiynau ond heb roi unrhyw rym i chwi. Fel pob corfforaeth gyflafol meant yn deall gwerth adeiladau ond nid gwerth cymunedau a grymuso pobl a disgyblion."“Nid yn unig y bydd strategaeth fiwrocrataidd o ganoli ysgolion yn distrywio dwsinau o’n cymunedau Cymraeg trwy droi’r cymunedau’n bentrefi henoed. Nid yn unig nad oes sail addysgol dros ddistryw o’r fath gan fod yr ysgolion hyn yn llwyddo.""Nid yn unig fod y strategaeth yn torri canllawiau’r Cynulliad trwy beidio ag ystyried unrhyw ddulliau amgen (fel ffeddereiddio) ond yn penderfynu ar ysgolion ardal canolog ym mhob achos o newid. Nid yn unig fod hyn oll yn wir – cwyd yn awr y ddadl ganolog a ddylai’r Cyngor Sir fod yn fforwm agored a democrataidd gyda grym neu a ddylai gael ei weithredu fel corfforaeth breifat."“Mae dau ddewis gyda chwi. Gellwch dderbyn yr hyn y mae’r swyddogion yn ei wneud. Os felly, bydd distryw cymunedol a digalondid llwyr ymhlith pobl leol. Ni bydd pobl yn gweld diben mewn pleidleisio mewn etholiadau os nad oes unrhyw rym gan gynghorwyr heb sôn am bobl. NEU fe allech ddewis ffordd well – sef gweithio gyda chymunedau lleol yn lle sathru arnynt.""Yn lle rhoi cymeradwyaeth otomatig i strategaweth y swyddogion, gallech ofyn am 6 mis o ymgynghori cyhoeddus ym mhob ysgol a chymuned trwy’r sir am egwyddorion sylfaenol y strategaeth. Dywed y swyddogion wrthych y bydd ymgynghori cyn cau unrhyw ysgolion. Ond twyll yw hyn gan mai ymgynghori’n unig (fel sy raid yn gyfreithiol) am fanylion gweithredu’r strategaeth yn lleol y byddant. Ni bydd unrhyw ymgynghori ledled y sir am yr egwyddoion sylfaenol. Mawr yw eich cyfrifoldeb.”